大象传媒

'Dim bwriad' gan y llywodraeth i werthu Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi mynnu nad oes unrhyw gynlluniau i werthu Maes Awyr Caerdydd.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y maes awyr i gael ei ddychwelyd i'r sector preifat, wedi i weinidogion gytuno i fenthyciad arall o hyd at 拢21.2m.

Ond dywedodd Mr Drakeford mai ychydig iawn o feysydd awyr ar draws y byd sydd dan berchnogaeth breifat mewn gwirionedd.

Fe wnaeth Maes Awyr Caerdydd wneud colled o 拢6.6m cyn treth yn 2017/18.

'Buddsoddiad i'r economi'

Cafodd y benthyciad newydd ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon, gan olygu bod y maes awyr bellach yn gallu benthyg hyd at 拢59.4m gan Lywodraeth Cymru.

Y cyn-brif weinidog Carwyn Jones wnaeth y penderfyniad i brynu'r maes awyr yn 2013 am 拢53m, a hynny wedi i nifer y teithwyr ostwng yn sylweddol.

Yn ddiweddar fe ddywedodd swyddogion wrth ACau ei bod hi'n bosib y byddai'r maes awyr wastad angen dibynnu ar gymorth cyhoeddus os oedd y lle'n parhau i gael ei redeg yn yr un modd.

Ond wrth gael ei holi gan bwyllgor o ACau ddydd Gwener fe wnaeth Mr Drakeford amddiffyn strategaeth y llywodraeth.

"Dwi'n meddwl mod i'n iawn i ddweud mai ni fyddai un o'r unig ddwy brifddinas yn y byd fyddai heb faes awyr yn cysylltu ni 芒 gweddill y byd, petawn ni heb wneud beth wnaethon ni," meddai.

"Rydyn ni'n parhau i fod yn gefnogol o'n camau ni, yn barod i gefnogi hynny'n ariannol, a does dim bwriad gyda ni i werthu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod model busnes Maes Awyr Caerdydd yn un cyffredin

Ychwanegodd mai dim ond 14% o feysydd awyr y byd 芒 hediadau cyson sydd dan berchnogaeth breifat.

"Mae ein model ni yng Nghymru yn un cyffredin iawn, rydyn ni yn yr un lle a JFK yn Efrog Newydd neu Charles de Gaulle ym Mharis," meddai.

"Ar draws y byd mae llywodraethau yn sylweddoli bod maes awyr llwyddiannus yn fuddsoddiad ar ran yr economi a phoblogaeth yr ardal honno."

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn cynyddu'n gyson ers 2013, gyda 1.7 miliwn o bobl y flwyddyn bellach yn ei ddefnyddio.