Cyflymder cerdded yn gliw i adferiad cleifion str么c iau

Disgrifiad o'r llun, Mae Karl Jackson wedi bod yn helpu Trefor Jones gyda'i adferiad ers iddo gael str么c yn 38 oed
  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru

Mae arbenigwyr yn ffyddiog y gallan nhw ddatblygu ffyrdd newydd i helpu cleifion sydd wedi cael str么c ddychwelyd i'r gwaith yn sgil ymchwil newydd blaenllaw gafodd ei gynnal yng Nghymru.

Dangosodd yr astudiaeth fod cyflymder cerdded claf iau sydd wedi cael str么c yn ffactor allweddol o ran darogan a fyddan nhw'n gallu dychwelyd i fyd gwaith yn y pendraw.

Cafodd yr ymchwil ei arwain gan d卯m o Brifysgol Metropolitan Manceinion ond mae'n seiliedig ar astudiaeth o 46 o gleifion yng Nghymru.

Y gobaith yw y bydd y canlyniadau yn arwain at ddatblygu therap茂au newydd wedi eu teilwra ar gyfer cleifion str么c iau allai gael eu mabwysiadu ar draws y byd.

Yn gyn-filwr - ac yn 诺r ffit, newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 38 mlwydd oed, wnaeth Trefor Jones o ardal Porthmadog erioed ystyried y gallai gael str么c.

Ond dyna'n union ddigwyddodd iddo'r llynedd.

"Gesh i gur pen mawr. O'n i yn dreifio. Nath coes fi stopio gweithio...Gesh i reid mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd a wedyn mynd o Ysbyty Gwynedd i Lerpwl i Walton i gael operation i relievio bleed, clot yn pen fi."

Roedd sylweddoli ei fod wedi cael str么c yn sioc fawr, meddai.

"O'n i ddim yn coelio fo achos bod fi mor ifanc. Dydy str么cs ddim yn digwydd i bobl ifanc, dyna o'n i yn meddwl."

Disgrifiad o'r llun, Mae Trefor Jones yn awyddus i ddod o hyd i swydd gan ddweud bod peidio gweithio yn mynd i effeithio ar ei les meddyliol

Mae ei fywyd meddai wedi "newid".

"Dydy o ddim yn un fath. Fedrai'm rhedeg. Fedrai'm cerdded yn iawn."

Erbyn hyn mae cyhyrau Trefor yn ailddysgu sut mae cerdded, a'r nod maes o law yw cyflymu'r camau.

A hynny oherwydd bod ymchwil newydd am y tro cyntaf yn dangos - os gall Trefor gyrraedd ar gyflymder o dair troedfedd yr eiliad yna mae'n llawer mwy tebygol o allu mynd yn 么l i weithio yn y pendraw, rhywbeth sydd yn nod personol iddo.

Datblygu therap茂au newydd

Karl Jackson - ffisiotherapydd arbenigol str么c yn Ysbyty Gwynedd - yw un o awduron yr ymchwil.

"Mae lot o bobl, peth cynta' maen nhw'n d'eud ar 么l str么c ydy 'dwi isio cerdded'. Ac wedyn ar 么l cerdded, 'dwi isio mynd n么l i gwaith.

"Mae'r bobl ifanc sydd wedi cael str么c, mae ganddyn nhw deuluoedd. Mae ganddyn nhw financial commitments. Ac mae hynny yn cael effaith ar lot o'r recovery ar 么l str么c. Mae gallu iwsio rwbath fel'ma i helpu stroke patients, mae'n gallu bod o fudd yn y dyfodol."

Y gobaith yw y bydd yr ymchwil yn arwain at ddatblygu therap茂au newydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer cleifion str么c iau, allai gael eu mabwysiadu ar draws Cymru, ac yn fyd-eang.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai cleifion str么c yn gwneud teithiau cerdded am fod yna fanteision bod allan yn yr awyr agored

Ar hyn o bryd mae llawer iawn o ffisiotherapi yn digwydd dan do mewn cartrefi, clinigau ac ysbytai.

Mae'r t卯m ymchwil bellach yn ystyried manteision hyfforddi yn yr awyr agored - er enghraifft, drwy fynd 芒 chleifion iau sydd wedi cael str么c ar deithiau cerdded i lefydd fel Bannau Brycheiniog.

Dros gyfnod o ddegawd, ar draws y byd mae nifer y cleifion dan 65 oed sy'n cael str么c wedi cynyddu 40%.

Ond yn aml iawn mae'r therap茂au sydd ar gael yn seiliedig ar beth sy'n gweithio orau i gleifion h欧n.

Y gobaith yw y bydd yr ymchwil newydd yn gam mawr yn yr ymdrech i helpu cleifion fel Trefor i fynd yn 么l i'r gwaith ac ailafael yn eu bywydau.