大象传媒

Pinewood yn tynnu allan o'u stiwdios yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pinewood Studio

Bydd rhan cwmni Pinewood mewn stiwdio ffilm sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn dod i ben fis Mawrth nesaf.

Mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau ar gyfer y stiwdio ger Caerdydd, sy'n cynnwys marchnata a'r defnydd o'r enw Pinewood.

Fe gafodd Llywodraeth Cymru eu beirniadu yn gynharach eleni am "nifer o wallau" yn y fenter i drawsnewid hen warws yn stiwdio.

Dywed Pinewood y bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu adrannau eraill o'r cwmni, tra bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn falch o'u cysylltiad gyda'r fenter.

Mae'r cynhyrchwyr teledu annibynnol Bad Wolf wedi bod yn rhedeg y stiwdio, yn nwyrain Caerdydd, fel tenantiaid i Lywodraeth Cymru, ar 么l cytuno ym mis Mawrth eleni i rentu'r gofod am 12 mis gydag opsiwn i ymestyn y brydles am ddwy flynedd arall.

Mae adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi amcangyfrif fod Llywodraeth Cymru yn talu 拢392,000 y flwyddyn i redeg y stiwdio ac mae ffi reoli sy'n cael ei thalu i Pinewood wedi'i chadw'n gyfrinachol.

Mae Bad Wolf yn gwmni sy'n cael ei redeg gan gyn-benaethiaid y 大象传媒, Jane Tranter a Julie Gardner, dwy a fu'n gyfrifol am adfywio Doctor Who yn 2005.

Dywedodd Cadeirydd Gr诺p Pinewood, Paul Golding: "Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae costau cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru wedi mwy 'na dyblu.

"Bellach mae gan Gymru farchnad gadarn ac aeddfed, gyda'r tair prif stiwdio yng Nghaerdydd yn rhedeg hyd eithaf eu gallu," meddai.

"Bydd ein penderfyniad yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ein cynlluniau i ddatblygu, sy'n cynnwys ehangu ein stiwdios yn Pinewood a Shepperton."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Yr Arglwydd Elis-Thomas: "Rydym yn falch o'n cysylltiad 芒 Pinewood, a dros y pum mlynedd diwethaf mae ein diwydiant creadigol bywiog wedi gweld cynyrchiadau ffilm a theledu yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru - gan gynnwys y rhai a wnaed gan Pinewood a Bad Wolf - yn gwario mwy na 拢100m yng Nghymru, ac yn creu gwerth dros 2,000 o swyddi llawn amser ac yn dod a budd i gadwyni cyflenwi lleol a channoedd o fusnesau."