'Catalog o wallau' yng nghytundeb Pinewood 芒'r llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Mae "catalog o wallau" mewn cytundeb llywodraeth gyda chwmni ffilmiau Pinewood yn dangos bod angen adolygiad o allu gweision sifil i lunio cytundebau 芒'r sector preifat, meddai pwyllgor.
Mae ACau sy'n goruchwylio gwariant arian cyhoeddus yn hynod feirniadol o'r ffordd y mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gytundebau 芒 Pinewood i hybu'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Arwyddodd Llywodraeth Cymru gytundeb "nad oedd ganddo fanylion [amdano], yn anwybyddu gwrthdaro buddiannau posibl, ac wedi prynu adeilad gyda tho sy'n gollwng heb gynnal arolwg strwythurol", meddai adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.
'Cyngor anghywir, anghyflawn ac ansawdd gwael'
Symudodd Pinewood i Gymru yn 2015, ar 么l i Lywodraeth Cymru brynu safle yng Ngwynll诺g.
Roedd disgwyl i brydles wreiddiol Pinewood bara 15 mlynedd, gyda'r ddwy flynedd gyntaf yn ddi-d芒l.
Ond wedi iddyn nhw ddechrau talu rhent o dros 拢500,000 y flwyddyn, fe ddechreuodd y cwmni wneud colled.
Roedd ACau wedi codi pryderon ynghylch "cyngor anghywir, anghyflawn ac ansawdd gwael a ddarperir i weinidogion Cymru ar sawl achlysur", yn 么l Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Mynegodd ACau bryderon hefyd nad oedd swyddogion yn sylweddoli y byddai'n rhaid talu TAW ar nawdd Llywodraeth Cymru o Pinewood.
Roedd y cytundeb yn golygu y byddai'r llywodraeth yn talu 拢483,000 y flwyddyn i Pinewood farchnata a hyrwyddo'r stiwdio yng Nghymru.
Ond roedd cost bellach o 拢87,600 y flwyddyn, gan olygu y byddai Pinewood yn derbyn 拢2.63m dros bum mlynedd.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dweud: "Rydym yn bryderus iawn ynghylch y ffaith y cafodd TAW ei hepgor o'r cytundeb nawdd gwreiddiol, gan fod hyn yn bwrw amheuaeth ar gadernid y gwaith diwydrwydd dyladwy, yn ogystal 芒 methiant i gael cyngor arbenigol ar oblygiadau TAW."
Roedd pryder hefyd mai dim ond 拢18m o'r 拢90m ddisgwyliedig fyddai'n cael ei adennill o fuddsoddiad 拢30m Llywodraeth Cymru yn y sector ffilm a theledu.
Dywedodd Mr Ramsay wrth 大象传媒 Cymru bod "adolygiad o'r gallu... o fewn y gwasanaeth sifil" i ddod i'r fath gytundeb.
"A yw'r bobl hynny sydd wedi cael eu recriwtio yn cael y wybodaeth, y sgiliau priodol sydd gennych i wneud y contractau hynny 芒'r sector preifat.
"Yn yr achos hwn, Pinewood oedd hi, roedd yn ymwneud 芒'r diwydiant ffilm. Gallai fod yn unrhyw ardal arall o fywyd Cymreig.
"Ond mae thema gyffredin yn rhedeg trwy hyn oll; mae angen adolygiad priodol arnom o'r cyfyngiadau capasiti o fewn Llywodraeth Cymru."
Methiant arall
Y llynedd, daeth i'r amlwg fod mwy na 拢5m o arian cyhoeddus wedi ei golli wrth gefnogi cwmni dur yn Abertawe a aeth i'r wal.
Derbyniodd Kancoat 拢3.4m gan Lywodraeth Cymru, er bod adolygiad yn rhybuddio bod y cynllun busnes yn wan.
Aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ac mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd ildio'r brydles ar yr adeilad yn costio 拢2m ychwanegol.
Yn 2016, dywedodd uwch was sifil fod y panel buddsoddi a argymhellodd y gefnogaeth wedi gwneud y penderfyniad anghywir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd11 Mai 2018