Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Plastig tu mewn i forfil gafodd ei ganfod ar draeth yn Ll欧n
Mae archwiliad post mortem wedi dangos fod gorchudd plastig mawr a rhaffau y tu mewn i forfil gafodd ei ganfod yn farw ar draeth yng Ngwynedd.
Daeth corff morfil pensgwar (sperm whale) ifanc i'r fei ym Mhorth Neigwl, ger Abersoch ddydd Mawrth.
Mae Cymdeithas S诺olegol Llundain (ZSL) wedi cynnal archwiliad post-mortem sy'n dangos fod gorchudd plastig mawr glas, rhaffau a darnau o blastigion eraill wedi'u canfod o fewn y morfil.
Dywedodd y gymdeithas bod hi'n anarferol iawn i weld morfil ifanc o'r fath ar hyd arfordir y DU a bod hwn o bosib ond yr ail i gael ei gofnodi yma erioed, a'r cyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Rob Deaville o ZSL nad oedd hi'n bosib dweud yn bendant mai'r plastigion oedd yn gyfrifol am farwolaeth y morfil.
"Ond fe all fod wedi cael effaith ar allu'r anifail i dreulio unrhyw fwyd," meddai.
Mae mamau a'u lloi fel arfer yn cael eu gweld ymhellach tua'r de, yn agosach at lefydd fel Ynysoedd yr Azores ym M么r Iwerydd.
Bydd mwy o brofion yn cael eu cynnal ar y morfil maes o law.