Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y cyfrinachau tu 么l i luniau rhyfeddol o Gymru
Dim ond pum mlynedd ar 么l dechrau ffotograffiaeth fel hobi mae plymar o Ynys M么n wedi ennill gwobr Ffotograffydd Tywydd y Flwyddyn y Royal Meterological Society.
Gareth M么n Jones sy'n dewis rhai o'i hoff luniau ac yn egluro sut mae'n llwyddo i ddal y golygfeydd - yn aml yng nghanol y nos ac ar ben mynydd.
Moel Siabod, uwchben y cymylau
"Hwn enillodd y wobr. Pigyn Moel Siabod ti'n weld, ac mae wedi cael ei dynnu oddi ar Lliwedd ddiwedd mis Mawrth eleni. Wnaethon ni ddechrau - fi a m锚t - o Pen-y-Pas tua 7.30pm a mynd am droed Crib Goch i drio cael llun o'r Wyddfa efo Or茂on uwch ei ben o.
"Ar 么l awr roedd hi'n shambles efo'r cymylau yn dod i mewn felly wnaethon ni droi rownd a mynd am Lyn Llydaw.
"Roeddan ni'n cerdded trwy'r niwl ac wedyn gweld bod y cymylau ddim yn mynd llawer uwch a ddudon ni 'awn ni fyny dipyn bach eto'.
"Gynta' oeddan ni ar y Lliwedd, wow, roedda' chdi'n sb茂o drosodd a gweld m么r o gymylau. Roedd hi'n berffaith glir.
"Pan wnaeth y llun guro'r wobr yn Llundain roedd o'n nyts... o'n i'n sb茂o ar fy hun bron fel out-of-body experience yn y seremoni - o'n i mewn cymaint o sioc."
Y Llwybr Llaethog o gopa'r Wyddfa
"Y golau oren ti'n weld yn y gwaelod, golau Lerpwl ydi fan yna - dim yr haul.
"Nesh i drio tua pedair gwaith cyn cael hwn, cerdded i fyny i'r copa efo tua 35kg o stwff camera ac un neu ddwy botel o gwrw i gadw cwmpeini.
"Ti'n mynd fyny a chael dim byd. Mae'r forecast yn dweud bod o'n iawn ond ti jest yn gweld glaw o flaen dy lygaid. Ti jest yn gorfod ista wrth y caffi am gwpwl o oriau ac wedyn penderfynu - 'di hwn ddim yn clirio' a mynd.
"Ond ti'n gwybod bod y shot yna a pan ti'n cael llun fel yna ar ei ddiwedd, mae o werth o.
"Mae'r un llun yma wedi ei wneud allan o tua 34 o lunia... ti'n tynnu llun, troi'r camera rhyw 15 degrees, tynnu llun eto, troi o 15 degrees eto, tynnu llun, wedyn codi ongl y camera, tynnu llun - ac wedyn mae software ar y cyfrifiadur yn ei roi i gyd at ei gilydd."
Goleuadau'r gogledd, Penmon
"Mae tynnu lluniau ac astrophotography wedi dechra' o weithio oriau hir fel plymar. Ro'n i'n arfer dechra' 7.30am a gorffan tua 5.30pm... wedyn o'n i'n mynd allan gyda'r nos. Tydi ffotograffiaeth ddim jest i'r dydd.
"O'n i'n mynd rownd yn tynnu lluniau cestyll yn y nos efo goleuadau arnyn nhw i mastro'r grefft o ddefnyddio'r camera yn y nos.
"Yn y dechra' o'n i'n reit frustrated ddim yn gwybod lle oedd bob dim ar y camera am bod hi'n dywyll. Felly o'n i'n mynd 芒 camera efo fi i 'ngwely ac yn trio newid pethau fel yr aperature yn y tywyllwch.
"Fel yna nes i ddysgu sut i iwsio camera heb feddwl. Dwi erioed wedi bod mewn dosbarthiadau - gweld lot o stwff ar YouTube, a 'neud lot o 尘颈蝉迟锚肠蝉."
Canary Wharf, Llundain
"Pan o'n i lawr yn Llundain i n么l y wobr nes i fynd ar drip ffotograffig fy hun - ges i dr锚n i Canary Wharf. Pont ydi hwn o un ochr yr adeilad i'r llall.
"Mae rhywbeth reit sci-fi amdano. Dwi'n byw yn Sir F么n a 'sgeno ni ddim buildings fel yna. Mae'n od, ti'n gweld pobl yn tynnu lluniau adeiladau a phobl a pan sgen ti ddim 'mynadd i dynnu lluniau mynydd eto, a ti eisiau change,ti'n meddwl 'faswn i wrth fy modd mynd i dynnu lluniau buildings'.
"Mae'n si诺r bod pobl Llundain yn teimlo vice versa. Mae be' ti'n methu dynnu yn apelio mwy i chdi weithiau."
Eryri dan eira, o gopa Moel Eilio
"Roedd hwnna'n fore oer, ond menig a st么f efo chdi i gadw'n gynnes i gael panad a ti'n ok.
"Ffotograffiaeth sydd wedi gwneud i fi ddechrau cerdded.
"O'n i'n licio mynd am dro ond roedd y mynyddoedd yn dychryn fi i ddechrau - a mynd yn y nos... ti ychydig bach yn anxious be' sydd am ddigwydd - un slip ti isio, ac mae'n nos da - a ti ddim isio galw neb allan chwaith.
"Ond rhan fwya' o'r amser pan dwi'n tynnu llunia ella' dwi wedi cyrraedd cyn iddi fynd yn dywyll.
"Weithia dwi ar call drwy'r nos efo'r gwaith a dwi'n gwybod ga' i ddim call am tua 3.30 yn y bore felly goda i adeg hynny a mynd am Lyn Dywarchen yn gwybod ga' i rhyw awren neu ddwy cyn i neb arall godi."
Plancton wedi goleuo, Penmon
"Pan nes i weld y bioluminiescent yma gynta' doedd gen i ond yr hen gamera ac ati a nes i fethu'r chance i gael y shot yna lawr y traeth a meddwl wn芒i byth weld o eto.
"Ond nes i fynd i Benmon drwy'r haf yma - bob nos am bedair wythnos, a disgwyl am y llun rhwng 11pm tan 3am.
"Roeddach chdi'n gweld dipyn fan yma a fan acw oedd yn rhoi hwb i chdi, meddwl 'mae o jest 芒 dod i'r lan'.
"Ti'n gallu creu o dy hun drwy greu splashes, ond tydi o ddim yr un fath - o'n i eisiau llun mor naturiol 芒 phosib do'n i ddim eisiau taflu cerrig i mewn. O'n i eisiau o jest yn tasgu ar y traeth."
Ynys Llanddwyn
"Nes i ennill cystadleuaeth Countryfile efo llun o Landdwyn yn 2017 - ond i fi mae hwn yn llun gwell.
"Mae pobl yn gofyn i fi 'pam ti'n mynd i Landdwyn o hyd i dynnu llun?' a fydda' i'n deud 'dwi'n licio'r lle'. Mae gen i dyniad i'r lle.
"Mi gollais i 'nhad pan o ni'n 20 oed - 16 mlynedd yn 么l - a'i hoff olygfa fo oedd yr Eifl. Ac os ti'n eistedd yn y lle yma maen nhw'n goleuo ac maen nhw'n dod ag atgofion melys i fi. Dwi jest yn licio bod yna.
"Dwi 'di eistedd yna o'r blaen heb dynnu llun a jest hel meddylia. Os oes gen ti dynfa i rywle waeth i ti fynd a mynd 芒 chamera efo chdi, ti byth yn gwybod be' gei di - ac mae pob machlud yn wahanol."
Hefyd o ddiddordeb: