大象传媒

Claf cyntaf o Gymru yn dechrau triniaeth canser arloesol

  • Cyhoeddwyd
John Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd celloedd eu cymryd gan John Davies ddydd Llun

Mae'r claf cyntaf yng Nghymru wedi dechrau triniaeth arloesol newydd i geisio gwella canser y gwaed.

Mae therapi CAR-T yn addasu rhai o gelloedd imiwnedd claf, gyda'r gobaith y byddan nhw wedyn yn gallu adnabod a lladd celloedd canser.

Bydd gwaed John Davies, 71 o'r Coed Duon, yn cael ei rewi yn Amsterdam, cyn cael ei addasu yn yr Unol Daleithiau ac yna ei drallwyso fis nesaf.

Er iddo gael blynyddoedd o gemotherapi, aflwyddiannus fu'r ymdrech hyd yma i gael gwared ar ei ganser.

Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yw'r nawfed canolfan ym Mhrydain ac y cyntaf yng Nghymru i gynnig y driniaeth benodol hon ers ei chymeradwyo ar gyfer y gwasanaeth iechyd y llynedd.

Yn rhannol oherwydd bod y driniaeth yma wedi ei theilwra'n benodol i gorff ac afiechyd unigolyn, mae'n driniaeth ddrud.

Y gred yw bod y math yma o therapi yn costio dros 拢300,000 y claf.

Yng Nghymru, mae'r driniaeth yn cael ei hariannu gan D卯m Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru drwy'r Gronfa Triniaethau Newydd gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd John ei fod yn "disgwyl y gwaethaf ac yn gobeithio am y gorau"

Fe wnaeth John ddarganfod bod ganddo lymphoma ddi-Hodgkin bum mlynedd yn 么l ar ymweliad arferol.

Mae wedi cael nifer o driniaethau aflwyddiannus cyn i therapi CAR-T fod ar gael.

"Rydw i'n anffodus mod i ei angen, ond yn ddigon ffodus ei bod wedi cael ei chymeradwyo gan y panel," meddai.

"Rydw i'n dipyn o pioneer. Rydw i'n gwneud hyn yn y gobaith y gallai helpu rheiny sy'n dod ar fy 么l i.

"Falle na fydd e'n gweithio i mi felly rwy'n disgwyl y gwaethaf ac yn gobeithio am y gorau."

Yn gyntaf, fe gafodd y celloedd gwaed gwyn o'r enw celloedd T eu tynnu o waed John yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Yn hwyrach y prynhawn yna, byddan nhw'n mynd i Amsterdam wedi eu rhewi mewn nitrogen hylifol, cyn cael eu hedfan i labordy yng Nghaliffornia.

Yna bydd y celloedd yn cael eu haddasu yn enynnol fel eu bod yn lladd celloedd canser, yn hytrach na bacteria a firysau.

Bellach maen nhw'n cael eu hadnabod fel "Chimeric Antigen Receptor T-Cells" - neu CAR-T.

Mae'r celloedd yna'n cael eu dyblygu cyn eu dychwelyd i Gaerdydd a'u trallwyso yn 么l i John o fewn rhyw fis.

Bydd rhaid monitro John yn agos am gyfnod oherwydd y sgil-effeithiau peryglus posib.

Fe fydd 大象传媒 Cymru yn dilyn hanes John yn ystod y misoedd nesaf.

Mae treialon clinigol wedi dangos y gallai'r driniaeth wella canser mewn tua 40% o'r cleifion sy'n ei derbyn, cleifion fyddai fwy na thebyg wedi marw fel arall.

Cafodd y therapi ei gymeradwyo gan gorff NICE yn 2018 ar gyfer cleifion oedd ddim yn ymateb i fathau eraill o driniaeth.

Hyd yn hyn mae tua 130 o gleifion ym Mhrydain wedi derbyn therapi CAR-T eleni.

Dywedodd John: "Rydw i'n ddiolchgar iawn... dwi wedi talu fy nhreth ers 40 mlynedd ond dwi'n meddwl fy mod i'n ddyledus iawn nawr ar 么l yr holl driniaeth ryfeddol."