Pum munud gyda'r actores Si芒n Reese-Williams
- Cyhoeddwyd
Gyda chyfres newydd o Craith yn cychwyn ar S4C 芒 Si芒n Reese-Williams wrth y llyw, bu Cymru Fyw'n holi'r actores deledu a theatr am ei gyrfa a'i bywyd.
Bydd DCI Cadi John (sef cymeriad Si芒n yn y gyfres) a DS Owen Vaughan (Si么n Alun Davies) yn dychwelyd naw mis ar 么l digwyddiadau iasol y gyfres gyntaf. Mae'r gyfres yn cychwyn ar nos Sul, 17 Tachwedd.
Mae Craith yn ddrama dywyll iawn. Sut wyt ti'n dygymod gyda pherfformio mewn cyfres gyda them芒u mor heriol?
Pan ti'n gweithio ar rywbeth tywyll, ti fel arfer yn cael mwy o sbort pan dyw'r camera ddim yn troi - chi'n gorfod cael amser da a 'neud i'ch gilydd chwerthin. Mae'r criw ar Craith yn wych. Er bod y gyfres yn dywyll, oedd e wastad yn lot o sbort i'w wneud.
Pan ti'n mynd n么l i chwarae cymeriad, mae fel troi switsh ymlaen a ni wedi neud un cyfres yn barod ac yn nabod ein cymeriadau yn dda erbyn hyn felly mae'n rhwyddach i edrych ar y sgripts a cofio pwy ti angen bod.
Mae'r gyfres newydd yn palu'n ddyfnach i fywyd Cadi ac yn ei dangos yn dygymod 芒 newidiadau gan gynnwys marwolaeth ei thad. Pa brofiadau wyt ti'n tynnu arnynt i gyfleu stad emosiynol Cadi?
Ni'n pigo'r gyfres lan 'byti naw mis ar 么l diwedd y gyfres gyntaf ac mae'r tad wedi marw ers rhyw chwe mis. Mae'n dangos yr amser 'na lle mae popeth yn mynd n么l i normal ond dim ond nawr mae'r sioc yn mynd.
Mae'n amser od pan ti'n galaru rhywun. Ti'n gweld Cadi yn gorfod cario mlaen 'da gwaith ac yn trio ymdopi 'da cadw bywyd personol mas o'i gwaith.
'Nes i golli fy mrawd Ll欧r pan o'n i'n ffilmio'r ail gyfres so o'n i'n rili deall hwnna. O'n i'n byw e fy hunan. Mae'n ddeinameg diddorol, yr amser hynny ar 么l i ti golli rhywun pwysig.
O'dd e'n anodd ond o'n i'n gweithio gyda ffrindiau oedd yn edrych ar 么l fi. Bydden i ddim wedi gallu bod yn unman gwell.
Oedd y golled yn ffresh iawn i fi, o'dd ddim rhaid i fi dynnu arno fe achos oedd e yna bob dydd. Mae'n gallu bod yn anodd pan ti'n chwarae rhywun gyda paralel i dy fywyd dy hun ond mae'n gallu bod yn cathartic hefyd.
Mae'r gyfres yn teimlo hyd yn oed mwy bygythiol oherwydd cefnlen hynod gogledd Cymru. Ydy'r lleoliad yn help ar gyfer portreadu'r cymeriad?
Ydy, yn bendant. Mae'r lleoliadau fel cymeriad arall achos maen nhw mor eiconig a mor gryf fel delwedd, Blaenau Ffestiniog yn enwedig. Mae'r mynyddoedd a'r llechi ar dy ben di.
Mae'n helpu achos ti'n teimlo naws y ddrama tra bod ti'n ffilmio fe.
Sut brofiad oedd perfformio yn y gyfres 大象传媒 Line of Duty? Wyt ti'n cael dy adnabod lawer mwy oherwydd hynny?
Briliant. O'n i heb weld e cyn mynd am yr audition a nes i binge watcho fe i gyd mewn wythnos - mae e'n wych. Oedd y cast yn gr锚t.
Oes gen ti hoff gymeriad wyt ti wedi portreadu?
Mae Cadi'n agos iawn i'n nghalon i achos dw i wedi bod gyda'r gyfres ers y dechre felly o'n i'n gwybod yn gwmws pwy oedd hi.
Rwyt ti wedi rhedeg Marathon Llundain eleni i godi arian - sut brofiad oedd hynny a beth wnaeth dy gymell i redeg y marathon?
Amazing! O'n i ddim yn erfyn mwynhau e achos dw i'n fflyrtio 'da rhedeg yn hytrach na rhedeg yn aml. O'n i'n codi arian i elusen brain tumour ar 么l colli fy mrawd Ll欧r. Oedd e'n deimlad amazing a nes i godi lot o arian, oedd pobl mor hael gyda'u arian nhw. Oedd e'n fythgofiadwy.
Mae wedi helpu gyda'r broses alaru - o'n i'n gweithio a trainio ar yr un pryd a wnaeth Ll欧r farw. Oedd rhai adegau pan o'n i ddim mo'yn 'neud e ond weithie oedd e'r peth gore o'n i'n gallu gwneud.
'Sa'i wedi rhoi trainers fi n么l mlaen ers hynny. Oedd e wedi cymryd shwt gymaint mas ohona'i ond mae'n rhaid i fi ddechre arni eto.
Mae cyfres newydd o Craith yn dechrau ar S4C ar nos Sul, 17 Tachwedd.
Hefyd o ddiddordeb