´óÏó´«Ã½

Ocsiwn 'clasuron' i gynnal Cymdeithas Waldo

  • Cyhoeddwyd
cyfrolau Waldo

Fe fydd yna "glasuron" ymhlith dros 150 o eitemau fydd yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn arbennig yng Nghrymych i godi arian ar gyfer Cymdeithas Waldo.

Bu farw'r Bardd a'r Heddychwr o Sir Benfro ym 1971. Fe ystyrir ei gyfrol, Dail Pren (1956), fel un o glasuron llên fodern Cymru, ac mae Waldo yn cael ei gydnabod fel un fawrion byd llên Cymru.

Fe fydd cyfrol wedi ei arwyddo gan y bardd ymhlith 151 o eitemau fydd ar werth yn yr ocsiwn i godi arian ar gyfer Cymdeithas Waldo. Mae yna gopi hefyd o Gerddi'r Plant wedi ei arwyddo gan T. Llew Jones.

Bwriad Cymdeithas Waldo yw:

  • Diogelu'r cof am waith a bywyd Waldo Williams a ystyrir yn un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru ac yn fardd o statws rhyngwladol;

  • Hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth ddyfnach o'i waith;

  • Cydnabod a hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams i heddychiaeth.

Mae'r Gymdeithas yn cynnal darlith flynyddol, wedi gosod placiau o gwmpas Prydain mewn lleoliadau sydd yn ymwneud â Waldo, a chyhoeddi taflen Taith Waldo ar gyfer ymwelwyr i'r ardal.

Llên, Celf, Llun a Chân yw enw'r arwerthiant fydd yn dechrau am 10:00 bore Sadwrn yn Ysgol y Frenni.

Disgrifiad o’r llun,

Alun Ifans yw trefnydd yr ocsiwn

Cyfraniadau enwogion

Ymhlith yr eitemau mae nifer o ganeuon yn llawysgrif yr artistiaid gwreiddiol. Mae Meic Stevens, Geraint Jarman, Bryn Fôn wedi cyfrannu at y casgliad.

Mae yna weithiau celf hefyd gan artistiaid fel Meirion Jones, Joanna Jones, Aneurin Jones, Mary Lloyd Jones a Wyn Melville Jones.

Alun Ifans yw trefnydd yr ocsiwn, a dywedodd: "Mae ei gerddi, ei lenyddiaeth yn wych, ac yn werth eu hyrwyddo.

"Fel bob cymdeithas, mae angen arian i gadw fynd. Ro'n ni'n meddwl cefnogi Cymdeithas Waldo trwy gynnal yr ocsiwn yma er mwyn medru cario 'mlaen am flynyddoedd i ddod."

Mae'r gerdd 'Yn Nheyrnas Diniweidrwydd' yn llawysgrifen Rhydwen Williams, "yn glasur cenedlaethol," yn ôl Alun Ifans.

Mae'r awdur, Caryl Lewis, wedi cyfrannu tudalen gyntaf Martha, Jac a Sianco yn ei llawysgrif.

Fe fydd yr arwerthiant yn dechrau am 10:00, gyda'r drysau yn agor am 09:00.