大象传媒

'System dameidiog' yn siomi dioddefwyr trais

  • Cyhoeddwyd
Menyw yn eistedd mewn cornelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adroddiad yn dweud bod y system presennol yn gadael dioddefwyr a goroeswyr i lawr

Mae dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu gadael i lawr gan "system dameidiog", yn 么l adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r adroddiad yn archwilio sut mae'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau newydd yn y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn cael eu gweithredu a'u cyflawni ledled Cymru.

Yn 么l yr adroddiad mae gwasanaethau'n anghyson, yn gymhleth ac yn fyr dymor.

Yn ogystal, mae dioddefwyr yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Er hyn, dywedodd yr adroddiad bod peth cynnydd da wedi bod mewn rhai meysydd trwy weithio'n rhanbarthol, codi ymwybyddiaeth a chyflwyno hyfforddiant.

Fe ddaw'r adroddiad bedwar diwrnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn Erbyn Menywod ar 25 Tachwedd.

Dywed yr adroddiad bod cynnydd o ran cyflawni agweddau allweddol y Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn wael ac nad yw hi wedi cael yr effaith a ddymunir.

Yn benodol, mae cyllido gwasanaethau allweddol yn dal i fod yn her. Mae hyn oherwydd bod gormod o ddulliau gwahanol sy'n gorgyffwrdd ac yn anghyson 芒'i gilydd yn cael eu gweithredu ledled Cymru.

Dywedodd prif weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, Eleri Butler bod "dewis amlwg" rhwng "atal, diogelu a chefnogi goroeswyr" neu methu nhw wrth eu trin mewn ffordd "anghyson".

"Mae angen i bawb weithio tuag at Gymru ble does neb yn cael eu troi i ffwrdd o gefnogaeth all achub eu bywyd pan mae nhw angen cymorth ac ein bod yn sicrhau bod pawb yn gallu byw yn rhydd o ofn a thrais yng Nghymru," meddai.

Cydnabod rhai gwelliannau

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Compton: "Mae'n achos pryder canfod, bedair blynedd ar 么l cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon a oedd yn torri tir newydd, bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i gael eu gadael i lawr gan system anghyson a chymhleth.

"Mae cydweithio a gweithio ar y cyd yn hanfodol i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn effeithlon ac yn effeithiol, yn enwedig o ystyried natur dameidiog y trefniadau darparu ar draws cyrff cyhoeddus."

Serch hynny, mae'r adroddiad yn cydnabod cafodd gwaith ataliol ei weithredu'n dda mewn rhai ardaloedd a'i fod yn gwneud gwahaniaeth mawr ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr.

Mae Hwb Cam-drin Domestig Abertawe a rhaglen 'Teuluoedd Cydnerth' Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn enghreifftiau da o wasanaethau'n gwella.

Ond dywedodd yr adroddiad bod dal llawer o waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymateb yn gyson ac yn effeithiol yn ogystal 芒 darparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer goroeswyr a dioddefwyr.