Ateb y Galw: Y cerddor Aled Wyn Hughes

Ffynhonnell y llun, Aled Wyn Hughes

Y cerddor Aled Wyn Hughes sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Branwen Haf Williams yr wythnos diwethaf.

Mae Aled a Branwen yn chwarae gyda'i gilydd yn y bandiau Blodau Papur a Cowbois Rhos Botwnnog, ac mae Aled hefyd yn gynhyrchydd ac yn rhedeg y label cerddoriaeth Sbrigyn Ymborth.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Ysgol Feithrin Bryncroes, yn mynd 芒'r stensils efo fi i'r toilet rhag i rywun ddwyn yr un oeddwn i isho.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Dwi'n cofio mynd i weld Casperyn Neuadd Dwyfor, Pwllheli efo Dad pan o'n i tua 10 oed, a dod allan efo'r crush rhyfedda ar Christina Ricci.

Ffynhonnell y llun, Casper

Disgrifiad o'r llun, Yn y ffilm 'Casper' gwnaeth cymeriad Christina Ricci ffrindiau gydag ysbryd cyfeillgar

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Fedra i wir ddim meddwl am adeg i mi gywilyddio rhyw lawer yn gyhoeddus! Eshi'n sownd mewn stand gitar tra'n cyrcydu ar lwyfan prysur unwaith, ond dwi'n meddwl i mi gael get-aw锚 efo hynny.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Ddoe ddwytha'n gwrando ar Nessun Dorma. Bob tro.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Deud 'Nai o wedyn', ac yna peidio.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi wrth fy modd yn gyrru'r ffordd rhwng Betws y Coed a Bethesda, a hefyd Pen Ll欧n gyfan (heblaw yn yr haf), ond bosib mai Ynys Enlli sy'n mynd 芒 hi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn y Gresham, Blackpool tan y bore bach efo Tony ac Aloma ar 么l bod yn recordio eu sengl olaf. Roedd pawb wedi diflannu erbyn i ni godi a'r holl beth yn teimlo fel breuddwyd, a Blackpool fel y bedd ganol gaeaf.

Disgrifiad o'r llun, Tony ac Aloma ar raglen Disc a Dawn yn y 1970au

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gweddol resymol a rhesymegol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi ddim yn meddwl bod gen i ffefrynnau pendant. Dwi'n hoff iawn o'r ffilm Pan's Labyrinth, a Blade Runner hefyd, a mae llyfrau His Dark Materials gan Phillip Pullman ymysg y rhai i mi eu mwynhau fwyaf. Traed Mewn Cyffion hefyd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mi fyswn i'n mwynhau cael trafod tictacs dros ddiod efo Johan Cruyff.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi erioed wedi dringo'r Wyddfa, er mawr cywilydd i mi. Mi fydd rhaid gwneud iawn am hynny rhyw dro.

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Os y bysa'r byd ar fin dod i ben, yna dwyn car a mynd am joyride.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

When All is Said And Done gan ABBA. Achos mae hi'n gyfan gwbwl anfarwol berffaith.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

I ddechrau, mi gymrai fara ac olifs, pl卯s. Yna pasta bwyd m么r, os gwelwch yn dda. Cheesecake i bwdin wrth gwrs.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lewis Hamilton, Zlatan Ibrahimovic neu ddrymiwr Elton John.

Ffynhonnell y llun, Steve Thorne

Disgrifiad o'r llun, Mae Nigel Olsson wedi chwarae'r drymiau gydag Elton John ers 1970, ac yn parhau i wneud!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Lleuwen Steffan