大象传媒

Samariaid yn cael 9,000 o alwadau adeg Nadolig y llynedd

  • Cyhoeddwyd
Dyn tristFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae elusen Y Samariaid yn dweud eu bod yn awyddus i hyfforddi staff newydd ac i gynnig cymorth ar drothwy'r Nadolig.

Dywed llefarydd bod cyfnod Nadolig yn hynod o brysur i'r elusen.

Y llynedd fe gafodd y Samariaid - sydd ben arall y ff么n 24 awr o bob dydd - 9,000 o alwadau yng Nghymru adeg y Nadolig.

"Ar Noswyl Nadolig 2018 roedd bron 1,650 o wirfoddolwyr y Samariaid yn dechrau ar eu gwaith yn ein canghennau ar draws y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon," meddai'r llefarydd.

"Y diwrnod wedyn, aeth mwy na 1,475 o wirfoddolwyr y Samariaid i'r canghennau ac ymateb i filoedd o alwadau yn gofyn am help gan bobl a deimlai wedi'u gorlethu ar 25 Rhagfyr.

"Mae'r elusen yn gofyn i bobl ledled Cymru i helpu'r Samariaid i fod yno o hyd i'r rhai sydd angen cymorth emosiynol."

'Pwysig bod yno'

Bydd Sue Peart, gwirfoddolwr 62 oed gyda'r Samariaid sydd newydd gael ei hyfforddi, yn gwirfoddoli am y tro cyntaf adeg y Nadolig eleni.

Y Nadolig y llynedd oedd diwedd blwyddyn pan adawodd ei swydd a phan gollodd ei mam.

Dywedodd Sue: "Roeddwn i'n cael trafferth 芒'r ffaith bod fy ngyrfa wedi dod i ben ac yna daeth y galar o golli fy mam. Roedd yn ddiweddglo trist i flwyddyn ofnadwy.

"Anghofia' i ddim cymaint o gysur oedd bod 芒 rhif y Samariaid wrth ochr y gwely, rhag ofn y byddai angen imi eu ffonio yng nghanol y nos.

"Fyddwn i byth wedi rhagweld y byddwn yn gwirfoddoli gyda'r Samariaid. Wedi imi fod trwy gyfnod anodd fy hun, sylweddolais i ba mor bwysig oedd bod yno i rywun sydd mewn angen."

Ychwanegodd Ms Peart y byddai derbyn rhodd ariannol yn sicrhau bod yno i bawb sydd angen cymorth.

"Mae'n wasanaeth 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, a bydd eich rhodd yn helpu i dalu amdano ac am yr hyfforddiant i wirfoddolwyr fel fi," meddai.

Gall unrhyw un gysylltu 芒'r Samariaid AM DDIM unrhyw bryd o unrhyw ff么n, hyd yn oed ff么n symudol heb gredyd, trwy ffonio 116 123.

I gael cymorth yn Gymraeg, mae modd ffonio'r llinell Gymraeg am ddim ar 0808 164 0123.