Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi manylion taith Y Llewod i Dde Affrica yn 2021
Bydd Y Llewod yn chwarae o flaen torf o bron i 90,000 yn Ne Affrica yng ng锚m brawf gyntaf taith 2021 yn erbyn y pencampwyr byd.
Bydd y g锚m yn cael ei chynnal yn stadiwm Soccer City yn Soweto, Johannesburg - lleoliad rownd derfynol Cwpan y Byd p锚l-droed yn 2010.
Bydd yr ail brawf yn Cape Town a'r un olaf yng nghartref ysbrydol y Springboks, Ellis Park.
Am y trydydd tro, cyn-hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fydd yn arwain carfan Y Llewod.
Alan Phillips - cyn-reolwr y t卯m cenedlaethol - yw cyfarwyddwr gweithrediadau'r Llewod, ac felly'n gyfrifol am drefniadau'r daith i Dde Affrica,
Wrth i'r daith gael ei chwtogi i wyth g锚m yn hytrach na'r 10 arferol, bydd Y Llewod yn wynebu tri th卯m o'r gystadleuaeth Super Rugby - y Stormers, y Sharks a'r Bulls - cyn y gemau prawf, a byddan nhw hefyd yn chwarae yn erbyn t卯m gwadd a De Affrica 'A'.
Dywedodd Gatland bod hi'n hanfodol i sicrhau bod y t卯m ar ei orau ar gyfer y gemau prawf, a'i fod "yn hyderus y bydd safon y gwrthwynebwyr yn yr wythnosau cyntaf yn ein paratoi i herio'r Springboks".
Mynnodd hefyd bod y t卯m rheoli "yn gysurus iawn" y bydd tri o'r gemau, gan gynnwys dwy g锚m brawf, yn cael eu chwarae ar dir uchel.
"Mae'r amserlen yn ein galluogi i ddechrau ar lefel y m么r cyn cynefino ag amgylchedd unigryw chwarae ar uchder," meddai.
Ond bydd dim llawer o amser i'r garfan baratoi ar ddiwedd y tymor domestig gan fod y g锚m gyntaf wythnos yn unig wedi g锚m derfynol yr Uwchgynghrair Lloegr.
Roedd Gatland wedi apelio am ragor o amser paratoi yn dilyn taith 2017, a bu s么n am addasu amserlen gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a dod 芒 thymor yr Uwchgynghrair i ben wythnos yn gynt na'r arfer, ond chafodd cynlluniau penodol mo'u cyflwyno.
Taith y Llewod i Dde Affrica 2021
3 Gorffennaf - DHL Stormers (Stadiwm Cape Town, yn Cape Town)
7 Gorffennaf - T卯m gw芒dd De Affrica (Stadiwm Nelson Mandela Bay, Port Elizabeth)
10 Gorffennaf - Cell C Sharks (Parc Jonsson Kings, Durban)
14 Gorffennaf - De Affrica 'A' (Stadiwm Mbombela, Nelspruit)
17 Gorffennaf - Vodacom Bulls (Loftus Versfeld, Pretoria)
24 Gorffennaf - Prawf cyntaf yn erbyn y Springboks (Soccer City, Johannesburg)
31 Gorffennaf - Ail brawf (Stadiwm Cape Town)
7 August - Trydydd prawf (Ellis Park, Johannesburg)