Trafferthion wedi Storm Atiyah a rhybudd arall i ddod
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,300 wedi bod heb drydan dros nos wedi i Storm Atiyah daro Cymru.
Roedd yna wyntoedd hyd at 77 mya yn Aberdaron ym Mhenrhyn Ll欧n yng Ngwynedd a 74 mya yn Aberporth, yng Ngheredigion.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd arall am wyntoedd cryfion iawn dros rannau helaeth o Gymru ddydd Mawrth.
Cafodd cyflenwadau trydan eu torri yn siroedd Gwynedd, Powys, Penfro, Ceredigion, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.
Roedd nifer o gartrefi hefyd heb drydan yn ardal Pwllheli ers tua 01:30 fore Llun.
Dywedodd Western Power Distribution mai 691 oedd nifer yr adeiladau heb drydan erbyn 07:15 yn yr ardaloedd maen nhw'n eu gwasanaethau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio bod nifer o goed wedi syrthio ar draws ffyrdd yn eu rhanbarth.
Bu'n rhaid cau'r A470 ger Rhaeadr, yr A476 yn Sir Gaerfyrddin rhwng Ffairfach a Charmel a'r B4312 rhwng Tre-Ioan a Llangain wedi i goed gwympo.
Mae'r A4086 hefyd ar gau yng Nghapel Curig ger Canolfan Plas y Brenin wrth i'r gwasanaethau brys symud coeden o'r ffordd.
Mae coeden hefyd wedi cwympo ar draws rheilffordd Calon Cymru yn Llanymddyfri, sy'n golygu bod angen gohirio neu ganslo teithiau rhwng Llanelli a Craven Arms yn Sir Amwythig.
Yn Nhonypandy, cafodd diffoddwyr t芒n eu galw wedi i sgaffaldiau o amgylch t欧 gwympo ychydig ar 么l 02:00 fore Llun.
Ar y ffyrdd
Mae yna gyfyngiadau mewn grym ar nifer o bontydd, gydag un l么n yn unig ar agor i'r ddau gyfeiriad ar yr M48 Pont Hafren.
Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro a Phont Britannia rhwng Gwynedd a M么n bellach ar agor unwaith yn rhagor i gerbydau uchel.
Mae'r sefyllfa ddiweddaraf ar wefan .
Mae'r gwyntoedd cryfion wedi effeithio ar wasanaethau Stena Line rhwng Cymru ac Iwerddon, gan atal fferi 02:30 rhag glanio yng Nghaergybi.
O'r herwydd byth taith 08:10 o Ddulyn i Gaergybi o leiaf bum awr yn hwyrach.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd newydd am wyntoedd cryfion dros rannau helaeth o Gymru ddydd Mawrth.
Mae'r rhybudd newydd yn dod i rym am 05:00 fore Mawrth tan 17:00 y prynhawn, ac yn weithredol dros siroedd Ceredigion, Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Ynys M么n, Powys a Wrecsam.
Bydd gwyntoedd o hyd at 70 mya yn taro, a hynny cyn i ffrynt o law trwm gyrraedd o'r gorllewin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019