Gwahardd Rob Howley am 18 mis am dorri rheolau betio rygbi

Ffynhonnell y llun, Michael Steele

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Rob Howley ei anfon adref o Japan yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd i gynorthwyo gydag ymchwiliad

Mae cyn-hyfforddwr olwyr Cymru Rob Howley wedi cael ei wahardd o'r g锚m am 18 mis, naw mis wedi eu gohirio, am dorri rheolau yngl欧n 芒 betio.

Gwnaed y penderfyniad gan banel annibynnol yng Nghaerdydd ddydd Llun yn dilyn ymchwiliad gan Undeb Rygbi Cymru.

Dywed y panel iddo osod 363 o fetiau ar gyfanswm o 1,163 o gemau rhwng 14 Tachwedd 2015 a 7 Medi 2019.

Clywodd y panel fod Howley, 49, wedi defnyddio ff么n a roddwyd iddo gan Undeb Rygbi Cymru neu ei gyfrif e-bost gwaith i osod y betiau.

Fe fydd y gwaharddiad yn cael ei 么l ddyddio i 16 Medi pan gychwynnodd yr ymchwiliad.

Dywed datganiad gan Undeb Rygbi Cymru na fyddan nhw na Rob Howley yn gwneud unrhyw sylw pellach, gan wneud cais i'r wasg barchu preifatrwydd yr hyfforddwr a'i deulu.

Cafodd Howley ei anfon adref o Japan lai nag wythnos cyn g锚m gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn dilyn honiadau ei fod wedi torri rheolau betio'r corff rygbi rhyngwladol.

Bydd y gwaharddiad yn dod i ben ar 16 Mehefin 2020.

Colled o 拢4,000

Fe wnaeth Howley gyfaddef i osod betiau ar 24 o gemau yn ymwneud 芒 Chymru neu chwaraewyr o Gymru.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd fod Howley wedi betio ar bwy fyddai'n cael y cais cyntaf yn y g锚m rhwng Cymru ac Iwerddon yn y brifddinas ym mis Mawrth eleni, pan seliodd Cymru'r Gamp Lawn.

Dros y cyfnod o bum mlynedd dan sylw, roedd y panel yn fodlon nad oedd Howley wedi gwneud elw a'i fod wedi colli 拢4,000.

Dywedodd yr adroddiad fod chwaer Howley wedi marw a bod hyn wedi bod yn "sbardun" i'w weithredoedd.