Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Fferm i dreialu prawf dici芒u cyflym
Mae fferm yn y gorllewin gafodd ei disgrifio fel "ar fin boddi" yn mynd i dreialu prawf newydd i adnabod y dici芒u (TB) mewn gwartheg.
Yn 么l datblygwyr y prawf, mae'n ffordd gyflymach a mwy effeithlon o adnabod yr haint.
Dros y tair blynedd diwethaf mae fferm Mossman ger Llangrannog wedi colli mwy na 300 o wartheg.
Mae prif swyddog milfeddygol Cymru wedi rhoi caniat芒d i'r prawf newydd gael ei gynnal ar weddill y gyr.
'Colli da yn ddiangen'
Mae'r ffermwr, Chris Mossman, yn talu er mwyn cael y prawf newydd gan obeithio y bydd yn arwain at golli llai o'i anifeiliaid.
Mae'r prawf newydd - Actiphage - yn gallu synhwyro presenoldeb y bacteria bTB yn syth o laeth neu waed yr anifail, a hynny o fewn ychydig oriau.
Mae'r profion presennol yn chwilio yn hytrach am ymateb imiwnedd, sydd ddim bob tro yn amlwg. Mae hynny'n golygu bod rhai anifeiliaid weithiau'n disgyn drwy'r rhwyd a pharhau i ledu'r haint ar ffermydd.
Er mwyn datrys y broblem yna, mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu fod pob anifail sy'n cael prawf amhendant, ond sydd ar ffermydd 芒 phroblemau, yn cael eu difa.
Fe ddywed ffermwyr fod hyn yn golygu lladd anifeiliaid heb angen, ac mae Mr Mossman yn credu ei fod wedi colli 170 o wartheg yn ddiangen.
Cafodd 12,799 o wartheg eu difa yn y flwyddyn hyd at Awst eleni... cynnydd o 28% o gymharu 芒'r un cyfnod yn 2018.Mae fferm yn y gorllewin gafodd ei disgrifio fel "ar fin boddi" yn mynd i dreialu prawf newydd i adnabod y dici芒u (TB) mewn gwartheg.
Fferm Mossman yw'r gyntaf yng Nghymru i dreialu Actiphage, ac un o lond dwrn yn unig ar draws y DU.
Dywed datblygwyr y prawf - cwmni PBD Biotech - eu bod am weithio gyda ffermydd eraill yng Nghymru wrth iddyn nhw geisio cael s锚l bendith Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd ar gyfer y prawf.
Bydd milfeddyg y fferm, Robert Price-Jones o Landysul, yn paratoi dogfen ar ganfyddiadau'r prawf ar fferm Mossman gyda'r bwriad o'i chyhoeddi yn gynnar yn 2020.
Dywedodd: "Mae'r potensial yma i fod yn llawer mwy sicr o ganlyniadau profion. Os ydych chi'n gallu dangos fod bacteria yng ngwaed yr anifail, ry'ch chi 100% yn sicr fod TB arno.
"Fe wnaethon ni brofi 30 o wartheg oedd wedi profi'n negatif ar y profion croen a gwaed arferol, a gweld bod mwy na'u hanner nhw yn bositif mewn gwirionedd.
"Mae'n cynnig gobaith i filfeddygon, oherwydd ar y funud ni'n teimlo ein bod ni'n brwydro'r haint yma heb weld llawer o welliant ar draws y wlad.
"Mae hwn yn cynnig ffordd ymlaen tuag at ddileu TB mewn gwartheg."