Nifer o Gymry ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r merched amlycaf ym mhêl-droed Cymru ymhlith y rhai i dderbyn anrhydedd gan y Frenhines fel rhan o Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Mae Loren Dykes o Bontardawe yn derbyn MBE am ei gwasanaeth i bêl-droed merched yng Nghymru.
Hi yw'r ail chwaraewr yn unig i gyrraedd 100 cap i'w gwlad, ar ôl ennill ei chap cyntaf yn 2007.
Bu'n chwarae i glybiau Pontardawe, Llanelli, Caerdydd a Bristol City, ond ei rôl bwysicaf yw ysbrydoli merched ifanc i chwarae pêl-droed fel hyfforddwr i dîm dan-15 Cymru a llysgennad i fudiad Street Wales.
Un arall ar y rhestr yw dynwaredwr Elvis Presley sydd wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dementia.
Mae Wynne Roberts o Fangor yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) wedi iddo godi dros £250,000 i amryw elusennau.
Dywedodd ei fod wedi cyffroi y bydd 'Y Brenin' yn mynd i gwrdd â'r Frenhines.
Mae'r arian o godwyd gan Mr Roberts ers 2013 eisoes wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu gweithgareddau fel Gardd Synhwyrau Dementia yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Yno mae ganddo "berthynas hyfryd" gyda chleifion dementia. Drwy ganu caneuon Elvis gyda nhw, mae'n eu cynorthwyo i adfer hen atgofion melys o'u hieuenctid.
Dywedodd Mr Roberts: "Dwi mor ffodus o ganfod ffordd o godi arian i achosion da sydd ar yr un pryd yn rhoi cymaint o bleser i mi a phobl eraill gobeithio."
Un arall i dderbyn y BEM yw David Lloyd-Evans am ei waith yn adfywio cymuned Y Fron yng Ngwynedd.
Symudodd Mr Lloyd-Evans i'r pentref yn 2003 ar ôl 23 mlynedd yn yr Awyrlu Brenhinol.
Oherwydd ei waith ers symud yno, mae gan y pentref bellach ganolfan newydd gwerth £1.1m sy'n cael ei redeg gan y gymuned ac yn cyflogi pump o staff.
Ef hefyd arweiniodd y gwaith o adfer cae chwarae plant yn y pentref, ac roedd yn weithredol wrth wneud cais am grantiau i greu lawnt gymunedol i'r pentref.
Dywedodd: "Mae'n anrhydedd enfawr nid yn unig i mi, ond i'r holl gymuned a lwyddodd i wireddu breuddwyd.
"Mewn cyfnod lle dyw cymunedau bach ddim yn medru dibynnu ar lywodraeth leol na chenedlaethol am gyllid, ry'n ni wedi gallu profi fod pobl yn medru cymryd rheolaeth o'u pentrefi a threfi eu hunain a'u trefnu i fod yn llwyddiannus."
Pennaeth ysgol sy'n dathlu amrywiaeth yw un arall sy'n derbyn anrhydedd yr MBE.
Menna Sweeney yw pennaeth Ysgol Plascrug yn Aberystwyth - ysgol sydd â 13 o ffoaduriaid o Syria yn ddisgyblion ac sydd wedi cael ei dynodi'n ysgol "ardderchog" ym mhob categori gan archwilwyr Estyn yn 2018.
Cafodd Ms Sweeney ei hanrhydeddu am wasanaethau i addysg yng Nghymru.
Bu yn yr ysgol ers 39 o flynyddoedd, a dywedwyd fod ganddi "ddisgwyliadau uchel iawn a gweledigaeth glir am ddatblygiad yr ysgol".
Mae'r ysgol gydag amrywiaeth o ran disgyblion, ac fe gafodd Ms Sweeney glod mawr am ddarparu cyfleoedd addysgu i ddisgyblion sy'n "adlewyrchu a dathlu" yr amrywiaeth yno.
Roedd Plascrug yn un o 14 o ysgolion ar draws Cymru i gael y Wobr Ysgolion Rhyngwladol am waith eithriadol mewn addysg ryngwladol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Anrhydeddu cyn arweinydd
Mae cyn arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi derbyn y CBE yn y rhestr anrhydeddau.
Cafodd ei ethol i'r Cynulliad yn gyntaf fel AC Canol De Cymru yn 2007 cyn cael ei ethol yn arweinydd ei blaid yn 2011.
Bu'n arweinydd tan 2018 pan gafodd ei olynu gan Paul Davies. Ef oedd yn arwain yr ymgyrch 'Allan' yng Nghymru yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Mae bellach yn weinidog cysgodol dros yr amgylchedd a materion gwledig yn y Cynulliad, ac mae hefyd yn gynghorydd sir ar Gyngor Bro Morgannwg.
Gallwch weld y rhestr lawn o Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Frenhines .
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2017