大象传媒

Rhybudd i gadw draw o adrannau brys ysbytai dros yr 诺yl

  • Cyhoeddwyd
Meddyg yn trin clafFfynhonnell y llun, Photofusion

Mae ysbytai ledled Cymru yn gofyn i gleifion i beidio 芒 dod i'w hadrannau brys ac i beidio 芒 galw am ambiwlans os nad ydyn nhw mewn argyfwng allai beryglu bywyd.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mai'r Nadolig a'r Flwyddyn newydd ydy eu hadeg prysuraf o'r flwyddyn, ac maen nhw'n gofyn i bobl beidio 芒 gor-yfed ar nos Galan er mwyn osgoi cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth nad oedd ganddyn nhw "gyflenwad di-ben-draw o gerbydau ambiwlans".

Yn 么l y byrddau iechyd mae eu hadrannau gofal brys yn "brysur ofnadwy".

Dywedodd Louise Platt o Wasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae'r noson barti traddodiadol [ar 31 Rhagfyr] yn rhoi mwy o alw ar y gwasanaethau 999 nag unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.

"Er y bydd y mwyafrif o bobl yn yfed yn gyfrifol, yn anffodus mae yna rai a fydd yn gorwneud pethau.

"O achosi golygfa mewn bar, cwympo drosodd a thorri'ch coes, i yrru adref pan fyddwch chi dros y terfyn alcohol cyfreithiol, rydyn ni'n annog pawb i bwyllo a meddwl."

Y sefyllfa ar draws Cymru:

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ei fod wedi gorfod rheoli dau achos o salwch heintus yn ysbytai Sir Gaerfyrddin cyn y Nadolig, sydd wedyn wedi effeithio ar ei allu i ryddhau pobl.

"Ar hyn o bryd mae ein hadrannau brys yn profi pwysau sylweddol," meddai Andrew Carruthers.

"Mae gyda ni ddisgwyliadau clir yngl欧n 芒 gweld a thrin cleifion yn y ffordd rydyn ni eisiau, ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pennau ein hunain ac rydyn ni wir angen i'r cyhoedd ein helpu ni.

Ffynhonnell y llun, Photofusion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adran brys Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, fel pob un arall ar draws Cymru, o dan bwysau sylweddol meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Dywedodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan ei fod wedi ymestyn gwasanaethau er mwyn rheoli'r cynnydd sydd wedi bod yn y galw.

"Mae ein hysbytai yn parhau i fod dan bwysau mawr," meddai llefarydd ar eu rhan.

"Mae ein cyngor i bobl leol yr un fath - os ydych chi'n mynychu un o'n hadrannau brys 芒 salwch neu anaf a fyddai'n cael ei drin yn well mewn man arall, rydych chi'n debygol o wynebu arosiadau hirach oherwydd bod angen i'n staff flaenoriaethu gofal i gleifion sy'n s芒l iawn."

Dywedodd bwrdd iechyd Bae Abertawe wrth 大象传媒 Cymru bod ysbytai, yn enwedig yr adran achosion brys yn Nhreforys, yn "brysur iawn" ac maen nhw'n rhybuddio y gallai bobl fod yn aros am hir cyn cael eu gweld.

Ffynhonnell y llun, Photofusion

"Bydd staff clinigol bob amser yn blaenoriaethu pobl sy'n ddifrifol wael iawn, felly efallai y bydd oedi hir i'r rhai nad oes angen sylw arnyn nhw ar unwaith," meddai llefarydd.

Dywedodd bwrdd iechyd Cwm Taf fod staff yn gweithio'n eithriadol o galed yn eu hadrannau damweiniau ac achosion brys, a gofynnodd i bobl eu cefnogi trwy ddewis y gwasanaeth gofal iechyd priodol ar gyfer eu hanghenion.

Yr un oedd ap锚l bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, a ddywedodd ar eu cyfrifon cymdeithasol dros y penwythnos bod ei uned frys yn "hynod o brysur" gan rybuddio am arosiadau hirach yno hefyd, a dywedodd Betsi Cadwaladr fod ei adrannau brys yn brysur dros gyfnod y gaeaf.

Mae'r byrddau iechyd yn annog pobl i ddefnyddio gwefan i benderfynu pa wasanaeth GIG Cymru sy'n iawn iddyn nhw.

Dangosodd ffigyrau a gyhoeddwyd y mis hwn fod perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yng Nghymru ar y lefel isaf erioed am y trydydd mis yn olynol, a methodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru 芒 chyrraedd ei darged amser ymateb am y tro cyntaf mewn pedair blynedd.

Fe wnaeth 86,000 o gleifion ddefnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru ym mis Tachwedd, ac fe welwyd 74.4% o fewn y targed pedair awr.

Ar gyfer ambiwlansys, cyrhaeddodd y gwasanaeth 61.4% o alwadau coch a oedd yn peryglu bywyd o fewn wyth munud. Y targed yw 65%.