Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cofeb Tryweryn a safle awyren wedi eu rhestru yn 2019
Mae cofeb i bentref Capel Celyn, a gafodd ei foddi i gyflenwi d诺r i Lerpwl, ymysg y safleoedd sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd naw safle eu hamddiffyn gan gorff treftadaeth Cadw yn 2019.
Hefyd wedi eu hamddiffyn mae gweddillion awyren Americanaidd aeth i'r m么r ger Harlech, ac amddiffynfeydd rhyfel ym Mro Morgannwg.
Cafodd cyfanswm o bedwar adeilad eu hamddiffyn a chafodd pum safle eu cofrestru fel rhai o bwysigrwydd.
Cafodd pentref Capel Celyn yng Ngwynedd ei foddi yn 1965 er mwyn creu'r gronfa dd诺r.
Collodd tua 70 o bobl eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio gyda'r ysgol, y capel a'r ffermydd.
Roedd gwrthwynebiad mawr i gynlluniau Corfforaeth Lerpwl ar y pryd, ac mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried fel un pwysig yn hanes twf cenedlaetholdeb Cymreig.
Mae'r gofeb, a gafodd ei gwneud o garreg o adeiladau Capel Celyn, ar lannau'r gronfa.
Dywedodd Prif Weithredwr D诺r Cymru, Chris Jones, bod rhestru'r safle'n dangos "pwysigrwydd diwylliannol" a'r "pwysigrwydd hanfodol i'r gymuned leol ac i hanes ein gwlad".
Hefyd wedi eu rhestru mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug a Pearl Assurance House ym Mhont-y-p诺l, yn ogystal 芒 chiosg The Big Apple yn Y Mwmbwls.
Mae'r adeilad wedi ei ddisgrifio fel esiampl "prin ac anghyffredin o giosg glan m么r".
Ar y rhestr o safleoedd sydd wedi eu rhestru mae awyren Lockheed P-38 Lightning aeth i'r m么r oddi ar arfordir Harlech ym mis Medi 1942.
Mae'r awyren wedi'i chladdu o dan y tywod ac mae wedi dod i'r amlwg dair gwaith ers iddi ddod i lawr - gwelwyd yr awyren gyntaf yn yr 1970au, yn 2007 ac yna yn 2014.
Hefyd ar y rhestr mae simne ar hen waith plwm Llannerch-y-m么r yn Sir y Fflint, a Ffynnon Angoeron yn Sir Fynwy - safle o bwysigrwydd crefyddol.
Fe wnaeth Cadw hefyd ychwanegu dwy amddiffynfa o'r Ail Ryfel Byd i'r rhestr yn 2019.
Mae'r safleoedd yn St Mary's a Bae Tresilian ym Mro Morgannwg.
Dywedodd dirprwy weinidog treftadaeth Llywodraeth Cymru bod gan bob un o'r safleoedd ei "stori unigryw ei hun".
Ychwanegodd yr Arglwydd Ellis-Thomas: "Mae ein treftadaeth wrth galon ein hunaniaeth fel cenedl ac mae'n cyfrannu at ein ffyniant economaidd a diwylliannol."