'Yma o Hyd' yn cyrraedd y brig ar siart iTunes
- Cyhoeddwyd
Mae'r gân 'Yma o Hyd' wedi llwyddo i gyrraedd y brig yn y siart iTunes cyfredol - gan gystadlu gydag artistiaid fel Stormzy a Lewis Capaldi.
Daw ei llwyddiant, yn rhannol, oherwydd ymgyrch gan y mudiad dros annibyniaeth i Gymru, YesCymru.
Roedd y gân yn parhau ar frig y siart fore Llun.
Dywed Cadeirydd YesCymru fod yr ymgyrch wedi bod yn un anffurfiol, ond yn fodd o godi hwyl a chodi ymwybyddiaeth.
"Mae'n ymgyrch llawr gwlad," meddai Siôn Jobbins.
"Mae'n rhywbeth cyfeillgar sy'n gwneud i bobl wenu ond mae hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth ar yr un pryd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae'r gân wedi datblygu fel anthem answyddogol i rai, ac mae'r ffaith ei bod yn gwneud mor dda yn y siartiau yn codi ymwybyddiaeth pobl o'r iaith.
"Mae'n rhywbeth symbolaidd, yn rhywbeth anffurfiol ac mae'n dod â hwyl."
Cafodd y gân, sy'n cael ei chanu gan Dafydd Iwan ac Ar Log, ei hysgrifennu yn yr 1980au.
Mae'r gân hefyd yn rhif un yn y categori canwr ac awdur.
Mae'r rhanbarth rygbi'r Scarlets wedi mabwysiadu'r gân, ac mae'n cael ei chwarae ar ddechrau pob gêm ym Mharc y Scarlets.
"Rwy'n falch iawn o glywed," meddai'r canwr Dafydd Iwan wrth siarad â Cymru Fyw, gan ddweud fod y gân yn un o'r ffefrynnau ac yn aml yn gorffen ei berfformiadau.
"Ro'n i'n ymwybodol bod yna ymgyrch ar droed gan YesCymru ac eraill i gefnogi'r trac, er mwyn ei galluogi i fynd i fyny'r siartiau ond mae wedi digwydd yn gynt nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl.
"O bosib wneith y peth adael i mi riteirio!
"Ond mae'r gân yn cael ei chanu gan dorfeydd rygbi a phêl-droed, ac fel nifer o ganeuon Cymraeg ar ôl 'chydig o amser mae'n cyrraedd cynulleidfaoedd di-Gymraeg.
"Y peth sy'n rhyfeddol yw iddi gael ei sgwennu yn ystod yr 80au - mae'n rhyfeddol i feddwl!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd25 Awst 2014