大象传媒

Pryderon am ddyfodol grantiau lleihau dosbarthiadau

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth babanodFfynhonnell y llun, monkeybusinessimages/Getty Images

Mae mwyafrif yr ysgolion sydd wedi penodi athrawon er mwyn gostwng maint dosbarthiadau yn dweud na fyddan nhw'n gallu eu cadw pan ddaw grant gan y llywodraeth i ben.

Yn 么l adroddiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, mae 115 o ysgolion yn elwa o'r gronfa 拢36m i gwtogi maint dosbarthiadau babanod.

Yn sgil y cynllun, mae ysgolion yn gallu cael grantiau i dalu am staff newydd neu adeiladu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ar gyfer plant pedair i saith oed.

Mae rhai arbenigwyr addysg a gwleidyddion wedi cwestiynu gwerth am arian y polisi.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn targedu ysgolion gyda niferoedd sylweddol o ddisgyblion tlotach, lefelau uwch o blant ag anghenion dysgu ychwanegol neu ble mae canlyniadau'n is na'r cyfartaledd.

Mae 拢16m yn cael ei wario ar benodi 150 o staff ychwanegol a 拢20m ar greu 59 ystafell ddosbarth newydd yn ogystal 芒 gwella'r cyfleusterau presennol.

Hyd yn hyn, mae'r llywodraeth yn dweud bod 95 o athrawon a 40 o gynorthwywyr dosbarth ychwanegol wedi eu cyflogi.

'Cyllidebau yn fwy heriol'

Ond mae'r adroddiad yn nodi bod mwyafrif yr ysgolion sydd wedi derbyn grant i ariannu athrawon ychwanegol yn dweud na fyddan nhw'n gallu fforddio eu cadw pan ddaw'r cyllid i ben fis Awst 2021.

"Mae ysgolion yn dweud bod cyllidebau yn fwyfwy heriol bob blwyddyn a byddai cynnal yr athrawon ychwanegol yn eu rhoi mewn diffyg," meddai'r adroddiad.

Dywedodd "nifer fach iawn" y byddan nhw'n edrych ar ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion neu reoli eu cyllidebau'n ofalus i gadw'r dosbarthiadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kirsty Williams yn credu bod cysylltiad cryf rhwng gostwng maint dosbarthiadau a chyrhaeddiad

Mae'r grant wedi'i ddefnyddio, er enghraifft, i greu dau ddosbarth o tua 15 disgybl yn hytrach nag un dosbarth o 30, neu greu dosbarthiadau o ryw 10 ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.

Roedd lleihau dosbarthiadau babanod yn elfen ganolog o'r cytundeb ddaeth 芒'r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn Weinidog Addysg o fewn cabinet Llafur Llywodraeth Cymru yn 2016.

Ond roedd rhai yn cwestiynu ar y pryd a fyddai'n well gwario'r miliynau o bunnau ar flaenoriaethau eraill.

Ledled Cymru roedd maint dosbarthiadau babanod ar gyfartaledd ychydig yn is yn 2019 o gymharu 芒'r ddwy flynedd flaenorol - lawr i 25.4 o 25.6 o ddisgyblion.

Ond bu cynnydd ym maint dosbarthiadau'r adran iau ar gyfartaledd o 25.9 i 26.3 ac mae gan dros 12% o ddosbarthiadau iau - sef disgyblion rhwng 7 ac 11 oed - 31 o ddisgyblion neu fwy.

Budd y cynllun?

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod eisiau i "athrawon gael yr amser i addysgu a phlant i gael y gofod i ddysgu".

"Mae lleihau maint dosbarthiadau yn rhan allweddol o'n bwriad cenedlaethol i godi safonau ac ymestyn cyfleoedd i'n holl bobl ifanc fel eu bo nhw'n cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf a chyflawni eu potensial llawn," ychwanegodd.

Dywedodd y llywodraeth bod y polisi o gwtogi maint dosbarthiadau yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol.

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi dweud bod y dystiolaeth o leihau maint dosbarthiadau a'r effaith mae'n ei gael ar berfformiad myfyrwyr yn "wan".

Mae wedi dweud bod torri maint dosbarthiadau yn golygu cyfaddawdu, gyda llai o fuddsoddiad posib mewn meysydd allweddol eraill.

Ond yn gyffredinol dywedodd bod "cytundeb eang" bod angen mwy o amser a rhyngweithio rhwng athrawon a phlant iau a bod "rhywfaint o dystiolaeth" y gallai dosbarthiadau llai fod o fudd i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.