Cyngor yn awgrymu t芒l o 拢2 am yrru i ganol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynnig i godi t芒l o 拢2 ar yrwyr sy'n dod i mewn i ganol Caerdydd wedi ei gynnwys yng nghynlluniau trafnidiaeth y cyngor am y ddegawd nesaf.
Cyrraedd targedau aer gl芒n yw nod cynigion papur gwyn Cyngor Caerdydd wedi i ymchwil ddangos bod safon aer y ddinas ymhlith y gwaethaf trwy'r DU.
Llundain a Durham yw'r unig ddinasoedd yn y DU sy'n codi t芒l ar yrru i ganol y ddinas ar hyn o bryd, ond mae Birmingham, Manceinion a Chaeredin un ai yn ei ystyried neu wedi ei drafod yn y gorffennol.
Dywed y cyngor y byddai'r arian sy'n cael ei godi'n cael ei fuddsoddi mewn gwella trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae arweinwyr y cyngor yn cydnabod bod rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas yn "gwegian" a ddim yn ffit i bwrpas mwyach.
Maen nhw hefyd yn awgrymu cyflwyno bysus cyflym newydd, gan gynnwys llwybr gylchol, ac mae'r cyngor eisiau cydweithio gyda chwmn茂au bws i dorri'r gost o deithio arnyn nhw i 拢1.
Mae ymgyrchwyr iechyd a'r amgylchedd wedi galw am godi t芒l ar yrwyr yng Nghaerdydd wrth i bryderon godi am lefel y llygredd aer yn y brifddinas.
Yn 么l adroddiad gafodd ei gomisiynu gan y cyngor, bydd Stryd y Castell yn torri'r uchafswm cyfreithiol ar gyfer lefel y llygredd aer erbyn 2021 os nad oes cynllun mewn lle i leihau allyriadau gan gerbydau yn y ddinas.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau gwerth 拢21m gan Gyngor Caerdydd yr wythnos ddiwethaf i weithredu cyfres o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer.
Mae'r cynlluniau hynny'n cynnwys aildrefnu ffyrdd canol y ddinas, gwneud bysiau a thacsis yn fwy gwyrdd a'i gwneud yn haws i bobl gerdded a seiclo o amgylch y ddinas.
Byddai'n rhaid i unrhyw gynllun i godi t芒l ar yrwyr gael caniat芒d Llywodraeth Cymru pe bai cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r syniad yn y dyfodol.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd wrthod cynnig am "ardal aer glan" y llynedd - fyddai wedi gweld gyrwyr ceir sy'n rhyddhau llawer o allyriadau yn gorfod talu am yrru i ganol y ddinas.
Ond y gred yw y bydd y papur gwyn yn codi t芒l ar yr holl geir petrol a disel sy'n defnyddio canol y ddinas, gyda'r arian fyddai'n cael ei godi yn cael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae mudiadau aer gl芒n wedi croesawu'r cynnig i godi t芒l am yrru yng nghanol y ddinas, gan ddweud y bydd yn creu dinas "lanach, mwy diogel a deniadol".
"Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd, gwella safon yr aer i warchod ein hiechyd," meddai Haf Elgar o Awyr Iach Cymru.
"Mae'n rhaid i ni weld newid yn y ffordd rydym yn meddwl ynghylch teithio a gallwn ni ond wneud hynny trwy gyflwyno camau beiddgar a fydd yn helpu pobl i wneud y dewisiadau gorau iddyn nhw.
"Mae hefyd yn addawol i weld y bydd y t芒l am ddefnyddio ffyrdd ar draws y ddinas yn cael ei gefnogi gan well trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio actif, a fydd yn chwarae rhan annatod mewn gwneud symud at ddulliau teithio cynaliadwy'n rhatach ac yn gyraeddadwy."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amcangyfrif bod llygredd aer yn gyfystyr 芒 marwolaethau dros 220 o bobl ifanc dan 30 oed bob blwyddyn. ac mae hefyd yn cefnogi gwahardd cerbydau disel "i sicrhau'r aer glanaf bosib".
Mae 'na rybuddion bod cysylltiadau trafnidiaeth gwael Caerdydd wedi dod 芒'r ddinas i "sefyllfa beryglus iawn".
Does dim gorsaf fysiau ganolog ers 2015, a does dim disgwyl i un newydd agor tan 2023.
Mae gorsaf Caerdydd Canolog dros gapasiti ac mae cynlluniau gwerth 拢58m i'w huwchraddio, a bydd hi'n 2023 o leiaf cyn y bydd rhwydwaith integredig Metro De Cymru - cynllun gwerth 拢738m - yn agor.
'Bwydo'r bwystfil'
Dywedodd un fu'n rhan o ddyfeisio cynllun Metro De Cymru bod "rhaid ystyried codi t芒l mewn rhyw ffordd", ar y cyd 芒 buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn 么l yr Athro Mark Barry mae codi t芒l am ddefnyddio rhai ffyrdd, neu am lefydd parcio cwmn茂au, yn syniadau sydd angen eu hystyried.
"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol am y cynlluniau wrth symud ymlaen, nid yng Nghaerdydd yn unig, ond drwy'r rhanbarth," meddai.
"Ond hefyd mae'n rhaid i ni fod yn onest gyda phobl, allwn ni ddim parhau i fwydo'r bwystfil 'ma drwy roi mwy o le ar y ffyrdd i bobl a mwy o ryddid i bobl yrru ceir i bobman, heb adlewyrchu'r gost lawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019