Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Mwy o hyder' am ddyfodol cynllun Wylfa Newydd
- Awdur, Alun Rhys
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Union flwyddyn ers i gwmni Hitachi ddweud nad oedden nhw am fwrw 'mlaen gyda chynllun Wylfa Newydd am y tro, mae'r dyn sy'n gyfrifol am hyrwyddo datblygiad economaidd Ynys M么n yn dweud ei fod yn "fwy hyderus erbyn hyn yngl欧n 芒 dyfodol y cynllun".
Dywedodd Carwyn Jones, deilydd portffolio datblygu economaidd y cyngor, fod y cyd-destun amgylcheddol wedi newid.
"Da ni'n teimlo yn well heddiw nag o'n i 12 mis yn 么l ac mae'r synau sy'n dod o wahanol ffynonellau yn rhai calonogol iawn," meddai.
Mae'n s么n hefyd fod Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod am fod yn garbon niwtral erbyn 2050, tra bod Llywodraeth Cymru wedi datgan fod newid yn yr hinsawdd yn argyfwng.
Bwriad gwreiddiol y cwmni o Japan oedd codi atomfa newydd am 拢13bn, gan wario 拢2bn cyn iddyn nhw gyhoeddi ar 17 Ionawr 2019 nad oedden nhw am fwrw ymlaen 芒'r cynllun am y tro.
Roedd Hitachi wedi sefydlu is-gwmni o'r enw Horizon i weithredu'r cynllun, gan gyflogi 200 o bobl, ond bellach mae llai na 10 ar 么l.
Yn wreiddiol, roedd yna obeithion am greu hyd at 9,000 o swyddi tra bod y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo, ac y byddai nifer o swyddi da ar gael i redeg yr orsaf.
Ond oherwydd methiant i gytuno ar bris am y trydan gyda Llywodraeth y DU, penderfynodd y cwmni beidio bwrw ymlaen am y tro.
Nawr dywed Mr Jones bod posibilrwydd fod model ariannu newydd yn cael ei ystyried ar gyfer prosiectau isadeiledd mawr fel Wylfa Newydd.
Ond yn 么l Dylan Morgan o fudiad Pobl Atal Wylfa-B, sy'n gwrthwynebu atomfa newydd, nid yw'r darlun byd-eang yn awgrymu bod newid meddwl ar y gweill.
"Y cyd-destun diweddar yn 么l adroddiad y World Nuclear Industry Status Report yw mai darlun o ddirywiad cyson yw hi yn hanes y diwydiant niwclear yn fyd-eang," meddai.
"Mae'r ffaith fod Hitachi flwyddyn union yn 么l wedi penderfynu eu bod nhw ddim am suddo biliynau o arian mewn i'r cynllun yma yn dweud y cwbl."
Ar hyn o bryd mae'r diwydiant niwclear yn cynhyrchu 21% o ynni Prydain, ond wrth i rai o'r gorsafoedd gyrraedd diwedd eu hoes bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU benderfynu sut maen nhw'n mynd i lenwi'r bwlch heb gynyddu lefelau carbon.