大象传媒

Toriadau camer芒u cylch cyfyng yn 'gwbl anghyfrifol'

  • Cyhoeddwyd
Camerau y tu allan i adeiladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai cynghorau yn ystyried torri'n 么l ar nifer eu camer芒u cylch cyfyng

Fe allai lleihad yn nifer y camer芒u cylch cyfyng sy'n cael eu hariannu gan gynghorau lleol arwain at gynnydd aruthrol ym mhrysurdeb adrannau brys ysbytai, yn 么l llawfeddyg sydd hefyd yn arbenigwr ym maes troseddu.

Daw sylwadau'r Athro Jonathan Shepherd wrth i gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili ystyried gwneud arbedion drwy leihau nifer eu camer芒u cylch cyfyng.

Cynghorau sir yng Nghymru sy'n gyfrifol am gamer芒u CCTV cyhoeddus gan amlaf, sy'n cael eu defnyddio i atal troseddwyr a delio gyda phroblemau fel parcio, traffig ac ysbwriel.

Dywed y cynghorau eu bod yn wynebu pwysau ariannol sylweddol.

Mae Cyngor Caerffili yn ystyried diffodd 26 o'u camer芒u.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae'r cyngor yn trafod lleihau eu gwariant 50% erbyn 2023, gyda'r nod hefyd o geisio gwneud i'r gwasanaeth ddenu mwy o incwm.

Yn y cyfamser, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi penderfynu gohirio penderfyniad ar ddiffodd 92 o gamer芒u ar 么l y newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyllideb awdurdodau lleol.

Er hynny, bydd y cyngor yn trafod cynigion eraill sy'n cynnwys lleihau'r gwariant ar gamer芒u o 拢370,000 yn 2021/22.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Jonathan Shepherd yn bendant fod camer芒u cylch cyfyng yn fodd o leihau trosedd

Yn 么l Barry Hughes, prif swyddog Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, mae camer芒u cylch cyfyng cyhoeddus a phreifat yn adnoddau "gwerthfawr" wrth wneud penderfyniad a oes digon o dystiolaeth i gyhuddo.

Yn 么l yn 2017, meddai, dim ond bodolaeth camer芒u cylch cyfyng mewn gorsaf bws ym Mhen-y-bont ar Ogwr wnaeth ddal dyn wnaeth dreisio menyw oedd yn cysgu.

Fe wnaeth swyddogion oedd yn monitro'r camer芒u weld y drosedd a chysylltu 芒'r heddlu.

Yn 2015 fe wnaeth tystiolaeth camer芒u recordio car yn taro yn erbyn cysgodfa i ysmygwyr mewn clwb nos ym Mhorthcawl, gan anafu chwech o bobl.

Disgrifiad,

Camer芒u yn cofnodi'r heddlu yn dilyn car, cyn i'r cerbyd daro yn erbyn cysgodfa

Dywedodd yr Athro Shepherd, sy'n gyfarwyddwr ymchwil Gr诺p Ymchwilio Trais ym Mhrifysgol Caerdydd, fod presenoldeb camer芒u yng nghanol trefi yn galluogi i'r heddlu gyrraedd ffrwgwd cyn i bethau waethygu.

"Mae'n gwbl anghyfrifol i awdurdod lleol ddiffodd camer芒u, yn hytrach fe ddylai gofalu am ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth," meddai.

Yn 么l Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, yn hytrach na thoriadau, mae'r llu yn cynnal trafodaethau gyda chynghorau yngl欧n 芒 sut i wella ansawdd y fideo a gwneud gwell defnydd ohonynt.

"Mewn rhai cynghorau, mae'r offer yn hynod o hen ffasiwn, dyw'r ansawdd ddim digon da ar gyfer tystiolaeth," meddai.

"Rwy'n ffyddiog na fyddwn yn gweld CCTV yn diflannu'n llwyr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tystiolaeth camer芒u cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio mewn rhai achosion llys

Yn 么l Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, roedd yn "bechod mawr fod cynghorau mewn sefyllfa lle'r oedd rhaid ystyried toriadau".

Dywedodd Cyngor Caerffili fod yr awdurdod yn monitro 153 o gamer芒u ar hyn o bryd, ond eu bod yn ystyried diffodd rhai "oherwydd pwysau ariannol sylweddol".

Yn 么l llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot roedd "gwaith eisoes wedi ei wneud i ddatblygu'r model presennol o weithredu camer芒u cylch cyfyng mewn modd fyddai'n sicrhau incwm newydd, a hefyd er mwyn gallu parhau ac o bosib gwella'r gwasanaeth yn y blynyddoedd i ddod".

"Nid oes yna unrhyw gynigon i wneud toriadau pellach," meddai.