大象传媒

Galwad ar i gynllun monitro trais fod yn orfodol

  • Cyhoeddwyd
WardFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynllun yn golygu fod yr heddlu yn derbyn data gan ysbytai

Mae cyn-lawfeddyg o Gaerdydd sy'n gyfrifol am ddatblygu cynllun i leihau lefelau trais mewn ysbytai yn dweud y dylai'r cynllun fod yn orfodol yng Nghymru.

Mae 'model Caerdydd', a gafodd ei ddyfeisio gan yr Athro Jonathan Shepherd o Brifysgol Caerdydd, yn gofyn i unedau brys ysbytai gofnodi data pan mae rhywun yn cael ei anafu mewn digwyddiad ac yna trosglwyddo'r data i'r heddlu.

Nid yw'r data sy'n cael ei drosglwyddo yn cynnwys data a all gael ei ddefnyddio er mwyn adnabod pobl.

Mae'r cynllun wedi ei fabwysiadu gan rhai gwledydd tramor.

Ers 2017 mae'n orfodol i unedau brys mewn ysbytai yn Lloegr weithredu'r cynllun, ond nid felly yng Nghymru.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn asesu ar hyn o bryd pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gan unedau brys.

Mae data o'r fath yn cael ei ddefnyddio gan luoedd De a Gogledd Cymru,

Mae Heddlu Gwent yn defnyddio proses debyg, a dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn gweithio tuag at ddatblygu cynllun tebyg.

Yn 么l Mr Sheperd o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae'r cynllun wedi ei fabwysiadu mewn rhannau o America, Awstralia a Jamaica.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Jonathan Shepherd am i'r drefn fod yn orfodol yng Nghymru

Dywedodd fod lefelau trais sy'n gysylltiedig 芒 chleifion ysbyty ac sy'n cael eu cofnodi wedi gostwng 35%.

Ychwanegodd bod lefel y troseddau sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu wedi gostwng 42%.

Mae'r data sy'n cael ei roi i'r heddlu yn rhoi gwybod iddynt ym mha lefydd mae trais yn digwydd, gan gynnwys mewn achosion sydd ddim yn cael eu hadrodd i'r heddlu.

"Rydym angen sicrwydd fod hyn yn digwydd ym mhob adran ac uned brys yng Nghymru," meddai'r Athro Shepherd.

'Arbedion ariannol'

"Cafodd 'model Caerdydd' ei ddechrau yn 1997. Erbyn 2014 roedd tua 60% o unedau brys yng Nghymru a Lloegr yn ei ddefnyddio.

"Yn anffodus mae tystiolaeth yn awgrymu fod tir wedi ei golli ers hynny oherwydd sawl rheswm.

"Un ffactor yw bod nifer arbenigwyr data wedi cael eu lleihau wrth i awdurdodau lleol a'r heddlu edrych am arbedion ariannol - ac mae'r bobl yma yn hanfodol o ran deall data."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym mewn trafodaethau gyda'r Athro Shepherd am fodel Caerdydd ac ar hyn o bryd yn asesu pa wybodaeth sy'n cael ei gasglu gan unedau brys yng Nghymru."