Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi fersiwn derfynol y cwricwlwm addysg newydd
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Mae fersiwn derfynol y cwricwlwm newydd i ysgolion yn cael ei chyhoeddi heddiw, wrth i athrawon baratoi ar gyfer un o'r newidiadau mwyaf i addysg ers degawdau.
Dyma'r cam diweddaraf wrth ddiwygio'r ffordd y bydd plant 3 i 16 oed yn cael eu dysgu.
Mae'n dilyn cyfnod o ymgynghori ar 么l cyhoeddi drafft o'r cwricwlwm y llynedd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ei fod yn "garreg filltir enfawr" ond mae rhai undebau dysgu'n poeni am gyllidebau ysgolion.
Fe fydd cynllun gweithredu'n cael ei gyhoeddi ar 么l y Pasg, ac mae disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn y Cynulliad yn ddiweddarach eleni er mwyn gwneud y cwricwlwm yn gyfraith.
'Sicrhau cysondeb'
Dywedodd Kirsty Williams bod y fersiwn diweddara yn "symlach, yn fyrrach ac yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru ddylunio eu cwricwlwm eu hunain o fewn dull gweithredu cenedlaethol sy'n sicrhau cysondeb".
Mae'r canllaw i ysgolion yn cynnig hyblygrwydd i ddatblygu'r cwricwlwm o gwmpas chwe maes dysgu a phrofiad, ond mae rhai'n poeni y gallai hynny olygu gormod o amrywiaeth ar draws Cymru.
Fe fydd Cymraeg, Saesneg, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn elfennau gorfodol a bydd rhaid i ysgolion gynnwys Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm.
Er bod Cymraeg a Saesneg yn elfennau gorfodol o'r cwricwlwm, bydd gan benaethiaid a darparwyr addysg feithrin sy'n cael eu hariannu hawl i ddewis a ydyn nhw'n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr hyd at 7 oed, ac i ba raddau y maen nhw'n gwneud hynny - a hynny er mwyn cynorthwyo dysgwyr i fod yn rhugl yn y Gymraeg.
Fe fydd y sylw nawr yn troi at baratoadau ysgolion cyn i'r cwricwlwm ddechrau cael ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth o 2022.
'Grymuso ein proffesiwn'
Dywedodd y Gweinidog Addysg bod "grymuso ein proffesiwn ac adeiladu hyder" yn allweddol wrth i athrawon baratoi.
"Dylai ysgolion gymryd amser i ddeall model y cwricwlwm," meddai.
"Y cam nesaf ar y daith o ddiwygio yw paratoi'r proffesiwn i'w wireddu ym mhob ystafell ddosbarth ac ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru."
Mae'r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi bydd yna ddiwrnod ychwanegol ar gael ar gyfer hyfforddiant mewn swydd dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal 芒 chlustnodi 拢39m ar gyfer datblygiad proffesiynol athrawon i ddarparu'r cwricwlwm.
Ond mae undeb dysgu ASCL Cymru yn poeni nad yw lefelau ariannu ysgolion yn cyfateb a'r uchelgais.
Dywedodd Eithne Hughes o'r undeb eu bod yn frwdfrydig am y weledigaeth ond roedd yn haeddu "system sydd wedi ei hariannu'n ddigonol yn hytrach nag un sydd yn brwydro i gadw dau ben llinyn ynghyd".