大象传媒

Danny Gosset yn 'edrych ymlaen at gerdded heb faglau'

  • Cyhoeddwyd
Danny GossetFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Danny Gosset chwarae i Gymru C yn erbyn Lloegr yn Salford ym Mawrth 2019

Mae'r p锚l-droediwr Danny Gosset, sy'n derbyn triniaeth ar gyfer canser Non-Hodgkin's Lymphoma, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at allu cerdded heb faglau am y tro cyntaf mewn chwe mis.

"Mae'r gwaith caled yn parhau," meddai ar ei gyfrif Twitter ddydd Mawrth.

"Rwy'n symud i gael triniaeth radiotherapi a chael gwelliant llwyr i'r asgwrn femur.

"Ar 么l chwe mis o gemotherapi, dwi wrth fy modd i gael yr all clear. Gwellhad llwyr."

Yn 2019 roedd Gosset yn aelod allweddol o d卯m Y Bala oedd yn ceisio am le yng Nghynghrair Europa.

'Methu 芒 disgwyl'

Dywedodd ychydig wythnosau cyn diwedd y tymor ei fod yn teimlo'n rhyfedd.

"O ni'n teimlo niggle yn y goes ac o ni'n trio chwarae trwyddo fo, yn meddwl bod o yn ddiwedd y tymor, ac o'n i wedi blino 'chydig bach ella,"meddai'r chwaraewr canol cae wrth raglen Ar y Marc, Radio Cymru.

Yna fe aeth i weld ffisio clwb p锚l-droed Y Bala.

"Fe wnaeth nhw ffeindio bod tiwmor ar y femur - roedd o'n dipyn bach o sioc."

Dywedodd ei fod r诺an yn "methu 芒 disgwyl" i allu chwarae eto.

Dywedodd hefyd fod cymuned Y Bala a'r gymuned b锚l-droed wedi bod yn wych ac yn gefnogol iawn yn ystod ei salwch.