Dirwyon o 拢3.4m i Keolis Amey am berfformiad trenau Cymru

Mae pennaeth cwmni trenau Trafnidiaeth Cymru wedi cyfaddef nad yw perfformiad trenau'n "dderbyniol".

Dywedodd James Price wrth bwyllgor trafnidiaeth y Cynulliad nad oedd y cwmni "am fod lle'r ydym am fod" ar hyn o bryd.

Daw hynny wedi iddi ddod i'r amlwg fod y cwmni sy'n rhedeg y fasnachfraint, Keolis Amey, wedi cael dirwyon o 拢3.4m gan Lywodraeth Cymru oherwydd y perfformiadau siomedig.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd corff annibynnol sydd yn rheoleiddio'r gwasanaeth trenau ym Mhrydain fod teithwyr ar drenau Cymru ymysg y rhai lleiaf bodlon yn y DU.

Perfformiad

Fe ddisgrifiodd AC Cwm Cynon Vikki Howells broblemau "erchyll" gyda'r gwasanaeth yn ystod oriau brig ar y rheilffordd sy'n gwasanaethu Aberd芒r yn ystod yr wyth wythnos ddiwethaf.

Ychwanegodd Mr Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, mai ei obaith oedd gweld y trenau'n dod yn "ddiflas o ddibynadwy" wedi addewidion cychwynnol o "newidiadau cyffrous".

Trafnidiaeth Cymru yw corff Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am wasanaethau trenau.

Yn 2018 cafodd y fasnachfraint i redeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ei rhoi ganddyn nhw i Keolis Amey, wedi i'r cytundeb gyda Threnau Arriva Cymru ddirwyn i ben.

Mae'r dirwyon diweddaraf o 拢3.4m yn gynnydd ar y ffigwr o 拢2.3m gafodd ei roi gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, i'r pwyllgor yn gynharach yn y mis.

Ychwanegodd Mr Price wrth y pwyllgor fod disgwyl i'r dirwyon ostwng wrth i berfformiad "wella".

Ffynhonnell y llun, Senedd.tv

Disgrifiad o'r llun, James Price yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Mercher

Dywedodd yr AC Llafur Vikki Howells fod y perfformiadau rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2019 wedi bod yn waeth na'r flwyddyn flaenorol, ac fe ofynnodd pa bryd y byddai pethau'n gwella.

Dywedodd James Price ei fod yn teimlo nad oedd y perfformiad yn "dderbyniol".

"Nid dyma lle rydyn ni am fod o gwbl, a dwi hefyd yn ymwybodol fy mod i wedi bod gerbron y pwyllgor ar sawl achlysur yn awgrymu neu'n addo gwawr newydd sydd wedi bod yn ffug neu heb bara'n rhy hir," meddai.

"Felly dwi am fod yn eithaf gofalus rhag gwneud hynny eto."

Ychwanegodd Mr Price: "Wedi dweud hynny rydw i'n credu ein bod ni mewn sefyllfa nawr lle mae gennym ni fwy o stoc trenau nag sydd ei angen am y tro cyntaf.

"Mae llawer mwy o yrwyr ar y rhwydwaith nag oedd cynt, mwy o swyddogion ar y rheilffordd nag oedd o'r blaen. Ac ers dechrau Ionawr mae'r perfformiad ar bob llinyn mesur wedi gwella."

Ychwanegodd ei fod yn cydnabod bod "y rhifau'n gyffredinol yn edrych yn eithaf da", ond bod "profiad o'r gwasanaeth ddim yn teimlo'n dda iawn".