大象传媒

Gwrthod cais am gofeb i Carl Sargeant yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Carl Sargeant wedi gwadu honiadau o ymddwyn yn amhriodol tuag at fenywod

Mae cais am gofeb yn y Senedd i nodi cyfraniad y diweddar Carl Sargeant wedi ei wrthod gan y corff sy'n rhedeg y Cynulliad.

Roedd gr诺p trawsbleidiol o aelodau'r Cynulliad wedi galw am osod plac er cof am Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy.

Ond fe ddywedodd Comisiwn y Cynulliad wrth y gr诺p ei bod hi ond yn bosib ystyried ceisiadau o'r math yma yn achos aelodau oedd wedi marw dros ddegawd yn 么l.

Fe wnaeth Mr Sargeant ladd ei hun yn 2017, ddyddiau ar 么l colli ei le yng nghabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau am ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.

Llythyr

Mewn llythyr at Gomisiwn y Cynulliad, roedd yr AC Ceidwadol Andrew RT Davies, Jenny Rathbone o'r blaid Lafur a Bethan Sayed o Blaid Cymru wedi gofyn i'r rheol am gofebion gael ei hadolygu.

Roedd y llythyr yn gofyn i'r Comisiwn wyrdroi'r rheol mewn amgylchiadau arbennig - sef pan oedd aelodau wedi marw yn ystod eu tymor fel AC.

"Mae'r rhain yn ddigwyddiadau dramatig a phrin pan mae'r Cynulliad cyfan mewn galar," meddai'r llythyr.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mewn ymateb i'r llythyr, dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad: "Mae'r Comisiwn o'r farn ei fod yn bwysig i gadw integriti'r polisi ac felly fe ddaethpwyd i'r casgliad nad oedd yn bosib i gytuno i'ch cais."

Cafodd y polisi ei osod ym mis Chwefror 2019.

'Siom'

Dywedodd Ms Sayed ei bod wedi siomi gyda'r penderfyniad: "Rwy'n credu y byddai wedi bod yn goffadwriaeth briodol i Carl Sargeant - ac fe fyddai hyn yn wir am ACau eraill sydd wedi marw o fewn terfyn y 10 mlynedd."

Ychwanegodd Andrew RT Davies: "Fel Cynulliad rydym eto i gofnodi marwolaeth Carl Sargeant yn iawn ac mae hyn yn wir am ACau eraill, a rhaid cywiro hyn."

Dywedodd Mr Davies, sydd yn gyn arweinydd ar y Ceidwadwyr yng Nghymru, fod Mr Sargeant wedi "gadael ei farc" yn sylweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, drwy "ei ymroddiad a gwasanaeth o fewn y cabinet, a'r ffordd y llywiodd ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Val Feld yn 2001 ac fe gafodd plac er cof amdani ei osod yn 2018

Fe fyddai'n hoffi gweld cofeb ar yst芒d y Cynulliad i rai sydd wedi marw tra'n aelodau'r sefydliad, fel Mr Sargeant a Steffan Lewis.

"Yn hytrach na gosod rhwystrau, fe ddylai Comisiwn y Cynulliad wrando a gweithio gyda ACau i ddarparu teyrnged berthnasol i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau tra'n gwasanaethu Cymru," meddai.

Cafodd plac ei osod yn y Senedd yn 2018 er cof am Val Feld, yr aelod Llafur fu farw o ganser yn 2001 yn 53 oed.

Hwn oedd y plac piws cyntaf yn y DU i nodi cyfraniad menywod nodedig.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad ei fod wedi ymdopi polisi'r llynedd ble mae'n rhaid disgwyl 10 mlynedd cyn ystyried cofeb ar gyfer unrhyw aelod.

"Mae hyn i sicrhau cyfnod digonol o amser er mwyn i'r Comisiwn, ar y pryd, gyrraedd penderfyniad gwrthrychol ar deilyngdod pob achos," meddai llefarydd.