Mamau yn 'dioddef' heb uned arbenigol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae mamau newydd sydd 芒 phroblemau salwch meddwl yn "dioddef' oherwydd diffyg uned mam a baban yng Nghymru, yn 么l un fenyw sydd wedi gorfod mynd i Loegr am driniaeth.
Fe wnaeth Katie, 30 oed, dreulio saith mis mewn uned oedd yn golygu taith o 110 milltir o'i chartref yng Nghaerdydd, wedi iddi gael diagnosis o iselder dwys ar 么l rhoi genedigaeth 18 mis yn 么l.
Does yna'r un uned yng Nghymru ar hyn o bryd, ond yn 2017 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddatblygu canolfan o'r fath.
Dywed Lynne Neagle AC, cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad, fod angen newid y sefyllfa bresennol "ar frys".
Roedd gobaith y byddai uned arbenigol newydd, i gael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe, yn cael ei hagor erbyn haf y flwyddyn nesaf, ond mae rhaglen Wales Live 大象传媒 Cymru wedi clywed eu bod nawr yn ystyried uned dros dro yng Nghastell-nedd cyn dod i benderfyniad terfynol.
Yn 么l Ms Neagle: "Rydym yn gwybod fod y mamau sy'n dioddef gyda'r rhai o'r mathau gwaethaf o salwch meddwl 么l-enedigaeth yn gorfod cael triniaeth mewn wardiau seiciatryddol i oedolion ac wedi eu gwahanu o'r babanod, sy'n niweidiol i'r ddau ohonynt, neu bod yn rhaid iddynt fynd i Loegr.
"Rydym yn meddwl bod hyn yn gorfod newid, a hynny ar frys."
Dywedodd Katie ei bod wedi mynd i uned arbennig yng Nghaerwysg a bod hyn wedi helpu iddi ffurfio cyfeillgarwch gyda'i merch, Matilda.
Ond ychwanegodd byddai bod gartref yng Nghymru "wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol".
"Mae mamau yn dioddef. Rydych yn mynd yn s芒l mor gyflym a byddai cael uned yn eich gwlad eich hun yn gorfod gwneud pethau'n haws," meddai.
Mae unedau arbennig yn rhoi cymorth i fenywod sydd 芒 phroblemau iechyd, fel iselder 么l-genedigaeth dwys.
Maen nhw'n derbyn triniaeth tra ar yr un pryd yn gallu aros gyda'u baban newydd-anedig.
Yng Nghymru, credir bod 9,000 o famau bob blwyddyn yn dioddef problemau iechyd meddwl yn ystod eu beichiogrwydd, neu yn y 12 mis ar 么l rhoi genedigaeth.
Ond fe wnaeth yr uned arbenigol olaf yng Nghymru - yng Nghaerdydd - gau yn 2013.
Ers hynny mae menywod wedi gorfod teithio i unedau dros y ffin, ar gost o 拢800,000 i'r GIG yng Nghymru.
Dywedodd Katie ei bod teimlo iselder dwys, ac wedi hel meddyliau am hunanladdiad.
Pan oedd Matilda yn ddau fis oed, cafodd gynnig gwely yn yr uned arbennig yng Nghaerwysg. Bu yno am saith mis.
Mae hi'n credu y byddai wedi gallu dod adre o'r ysbyty ynghynt pe bai wedi cael triniaeth n么l adref yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) sefydlu uned arbennig, ond hefyd i "flaenoriaethu darpariaeth dros dro tra bod cynlluniau hir dymor yn cael eu gwireddu".
Ychwanegodd: "Rydym yn buddsoddi 拢2.5m y flwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol led led Cymru, i helpu nodi, trin a rheoli salwch meddwl cyn ac ar 么l genedigaeth.
"Erbyn hyn mae gwasanaethau cymunedol ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran PGIAC: "Mae PGIAC yn cefnogi opsiwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gomisiynu uned mam a baban dros dro sy'n cynnwys chwe gwely i gael ei leoli yn Ysbyty Tonna, ac i agor o fewn 12 mis.
"Fe fydd y Bwrdd Iechyd nawr yn bwrw 'mlaen gyda'r opsiwn ac fe fydd PGIAC yn sefydlu gr诺p gr诺p gorchwyl a gorffen i edrych ar yr opsiynau ar gyfer datrysiad hir dymor a pharhaol."
Dywedodd Dr Sarah Witcombe-Hayes o Gynghrair Iechyd Meddwl Mamol: "Heb uned mam a baban, mae menywod yn cael eu rhoi mewn uned seiciatryddol i oedolion - heb eu plant ar amser sydd mor bwysig ar gyfer magu perthynas - neu yn cael eu hanfon i unedau yn bell o'u teuluoedd.
"Mae yna straen emosiynol ac ariannol ar deuluoedd sy'n gorfod teithio i unedau yn Lloegr, sydd heb unrhyw wasanaethau nac adnoddau yn y Gymraeg.
"Mae hyn yn ei wneud o'n anodd iawn i deuluoedd Cymraeg eu hiaith."
Pe bai chi yn adnabod unrhyw un sy'n teimlo straen emosiynol mae gan safle 大象传媒 Action restr o sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chymorth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018