Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
HS2: Mark Drakeford yn beirniadu 'lladrad' trenau Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar lywodraeth San Steffan i roi terfyn ar yr hyn mae'n ei alw'n "lladrad mawr trenau Cymru".
Daw sylwadau Mark Drakeford yn sgil y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda chynllun dadleuol trenau HS2, sydd ddegau o biliynau o bunnoedd dros wariant.
Roedd Mr Drakeford yn ymateb i gwestiwn yn y Senedd ddydd Mawrth, pan wnaeth y gymhariaeth rhwng yr hyn oedd yn ei weld yn digwydd i Gymru, gyda lladrad drenau enwog yn 1963.
Yn gynharach roedd un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai Cymru gael cyfran deg o'r manteision o gynllun y rheilffordd gyflym.
Dywedodd y Farwnes Eluned Morgan fod Cymru wedi bod ar ei cholled dros y blynyddoedd wrth edrych ar wariant ar isadeiledd, ac nid oedd am weld hyn yn digwydd gyda HS2.
Mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y bydd Cymru'n elwa yn y tymor hir.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart y bydd teithwyr yng Nghymru yn "manteisio o ymrwymiad llywodraeth y DU i wella isadeiledd".
Beth ydy cynllun HS2?
Bydd system trenau cyflym HS2 (High Speed Rail) yn ymestyn llinellau trenau cyflym o Lundain i ogledd Lloegr.
Cafodd trenau cyflymder uchel HS1 eu cyflwyno i Brydain gyntaf yn 2007, gyda'r trenau yn mynd o Lundain i dwnnel y Sianel.
拢32.7bn oedd y gost yn wreiddiol, ond mae arbenigwyr bellach yn meddwl y bydd HS2 yn costio o leiaf 拢108bn i drethdalwyr Prydain.
Wrth annerch Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Mr Drakeford: "Does gennym ni ddim sicrwydd o gwbl gan lywodraeth y DU os bydd unrhyw arian yn llifo i Gymru o ran y cyhoeddiad sydd wedi ei wneud neu o ran bysiau neu o ran unrhyw gysylltiad gyda'r cyhoeddiad am HS2.
"Wrth gwrs mae'n rhaid i arian ddod i Gymru. Bydd yr aelodau yma yn ymwybodol iawn o'r ffigyrau: mae gennym 11% o'r traciau rheilffyrdd, 20% o'r croesfannau... ac rydym wedi cael 2% o wariant dros y 10 mlynedd diwethaf."
Ychwanegodd: "Mae lladrad mawr trenau Cymru gan y Tor茂aid angen dod i ben ac rydym yn edrych ymlaen i glywed ar 么l heddiw fod y lladrad mawr trenau yma'n dod i ben."
Mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y bydd cyflymder a chynhwysedd y rheilffyrdd rhwng Llundain a gogledd Lloegr yn gwella, ond dywed eraill na fydd unrhyw fudd i economi Cymru.
Mae penderfyniad Boris Johnson i fwrw ymlaen gyda chynllun uchelgeisiol HS2 wedi bod yn ddadleuol, gyda nifer yn gofyn sut y bydd Cymru'n elwa ohono.
Dywedodd yr Athro Mark Barry, sy'n helpu cynghori Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth bod HS2 "ddim o unrhyw fudd i Gymru".
"Fel y mae nawr, ry'n ni'n cefnogi cynllun enfawr yn Lloegr sydd ddim o unrhyw fudd i Gymru - ac yn cael dim buddsoddiad. Mae'n warthus," meddai.
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Jonathan Edwards AS bod "HS2 yn sarhau trethdalwyr Cymru".
"Rydyn ni'n colli allan ar biliynau o bunnoedd o nawdd sydd gennym hawl iddo - dyw hi ddim yn gredadwy i Lywodraeth San Steffan ddadlau bod y prosiect yn un 'Cymru a Lloegr' pan does yr un fodfedd o'r trac yn ein gwlad," meddai.
Yn 么l ffigyrau Adran Trafnidiaeth llywodraeth San Steffan, fe allai economi de Cymru fod ar ei cholled o 拢200m, er y gallai gogledd ddwyrain Cymru fanteisio ychydig ar y cynllun.
Dywedodd Eluned Morgan fod Cymru wedi derbyn 拢755m o ganlyniad i gynllun HS2 hyd yn hyn, sydd yn llai na'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Y rheswm am hyn yw achos nad ydy isadeiledd y rheilffyrdd wedi ei ddatganoli i Gymru.
Ychwanegodd Ms Morgan fod Cymru ar ei cholled yn ariannol achos mai dim ond 1% o wariant ar welliannau i'r rheilffyrdd oedd y wlad yn ei dderbyn, er bod 5% o boblogaeth y DU yn byw yma.
"Rydym yn awyddus iawn i gael ein cyfran deg bob tro ac rydym yn teimlo dros y blynyddoedd, yn enwedig pan mae'n dod i isadeiledd y rheilffyrdd, nad dyma yw'r achos," meddai.
Ysgrifennydd Cymru
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cynllun, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Fe fydd teithwyr yng Nghymru yn manteisio o ymrwymiad llywodraeth y DU i wella isadeiledd, yn cynnwys ein buddsoddiad yn HS2.
"Unwaith y bydd cynllun HS2 wedi ei gwblhau fe fydd amseroedd teithio yn fyrrach o orsafoedd gogledd Cymru i Crewe, Llundain a dinasoedd eraill.
"Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy nag erioed yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru.
"Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn cynnydd mewn gwariant o ganlyniad i gadarnhau cynllun HS2 a'r cynlluniau ar gyfer llwybrau beicio a bysiau gafodd eu cyhoeddi ar gyfer Lloegr heddiw."