Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Fy stafell i: Nia Parry
Mae Nia Parry yn enwog am gyflwyno'r gyfres Adre ar S4C, gan ymweld a busnesu yng nghartrefi pobl adnabyddus Cymru. Ond sut le yw ei adre' hi?
Cyn i'r coronafeirws daro, a chyn i bawb gael eu cynghori i aros yn ein cartrefi, fe wnaeth Nia ganiat谩u camera Cymru Fyw i mewn i'w th欧 ger Caernarfon, am gipolwg yn y stafell sy'n bwysig iddi:
Dwi'n licio'r soffa yma, dwi'n licio petha' efo hanes. Dwi'n licio pwyso fy mhen yma a meddwl mae 'na sawl person 'di pwyso ei ben fan hyn a rhoi'r byd yn ei le.
Fe brynon ni'r soffa ym marchnad Portabello yn Llundain, ar 么l gwydraid neu ddau o win! Y diwrnod wedyn roedd rhaid meddwl sut oedden ni am ei chael hi yn 么l i Gaerdydd? Dyna lle ro'n ni'n byw ar y pryd.
Dwi'n hoffi'r stafell yma. Dyma lle rydyn ni fel teulu yn treulio llawer o'n hamser.
Mae fy steil i yn dipyn bach o lanast i ddweud y gwir, neu eclectic! Dwi ddim o reidrwydd yn meddwl 'neith hwnna matshio efo hwnna'.
Mae'n hunllef [mynd i dai pobl i gyflwyno Adre] achos dwi'n dod adra a dwi'n cael creisis ac yn meddwl, s'dim byd yn matshio yma. Ti'n mynd i dai rhai pobl a ti'n meddwl 'o mae ganddyn nhw chwaeth dda', lle dwi jyst yn mynd efo fy nghalon.
Mae gen i lot o stwff yn y t欧 sy'n golygu rhywbeth personol, sy'n 'neud fi'n hapus. Dyma lun fy ddau fab, a'u sgidie cyntaf.
Ar Adre, un o'r prif bethau dwi'n weld ydy bod cartref rhywun yn estyniad o'u cymeriad, a fyswn i'n dweud bod fy nghartre i yn adlewyrchu fy nghymeriad i. Fi yn fwy na fy ng诺r i!
Bob man ti'n edrych yma mae 'na rywbeth si芒p calon, mae'n dipyn o j么c teuluol erbyn hyn.
Dwi'n meddwl bod cael petha fel 'ma o fy nghwmpas yn rhoi egni positif, mae'n 'neud fi'n hapus.
Mae gen i sawl ffr芒m gyda geiriau fel 'O bydded i'r heniaith barhau' a 'Cenedl heb iaith cenedl heb galon'. Mae Cymru a'r iaith yn bwysig iawn i fi, ac yn barod dwi'n gweld eu bod nhw'n bwysig i'n plant ni.
Ti'n gwybod beth ydy eich gwerthoedd chi fel teulu, y petha' sy'n ganolog i'ch bywyd chi.
Dwi'n hoffi cael mantras fel hyn o gwmpas y t欧. Weithiau 'dan ni'n gorfod atgoffa ein hunain o bopeth sy' gynnon ni.
Os dwi'n teimlo mod i angen help mewn rhyw ran o fy mywyd, dwi'n defnyddio mantra yn fy mhen i. Dwi'n meddwl bod o'n help i gael y pethau 'ma o fy nghwmpas i hefyd.
Mae gen i ddiddordeb ers erioed mewn meddwlgarwch. Dwi'n myfyrio ers fy mod yn fy ugeiniau, dipyn bach bob dydd. Dwi 'di 'neud cwrs Cwnsela ac Ymwybyddiaeth Ofalgar sef mindfulness, a dwi hefyd yn gymwys fel Life Coach.
Dwi'n berson egn茂ol, a mae gen i job efo adrenalin, mae'n rili bwysig medru dod i lawr.
Dwi ddim yn dda iawn efo tawelwch, dwi'n gorfod gorfodi fy hun. Weithie mae'n dri munud, weithie yn 10 neu 20 munud y dydd.
Mae'r sgil yna'n rhywbeth dwi'n drio ei drosglwyddo i'r plant felly rydan ni'n neud bach o fyfyrio gyda'n gilydd fan hyn.
Dyma lle ges i'r syniad am y llyfr Cwmwl Cai, achos o'n i'n meddwl bod gwir angen rhywbeth fel 'na i blant, a dwi erbyn hyn yn mynd i ysgolion i neud sesiynau gyda'r plant.
Wnes i ddefnyddio hypnobirthing i eni fy mhlant. Dwi'n meddwl, pan o'n i'n geni'r plant oedd pan dwi wedi gallu myfyrio orau. Roedd yn amazing pa mor bwerus oedd o.
Aeth y ddau enedigaeth yn dda, ges i ddim poen-laddwyr ac oedd Aled fy ng诺r yn dweud doedd o erioed 'di gweld fi mor dawel!
Mae pump cenhedlaeth o deulu Aled yn seiri maen, a dwi'n meddwl bod yr hen grefft o dorri enwau 芒 llaw yn bwysig. Dwi'n edmygu hynna, a beryg y byddwn ni'n ei golli.
Dwi'n hoffi bod 'na hanes i deulu Aled yn y darn yna o garreg, oherwydd dyma'r garreg mae'r seiri maen wedi ei defnyddio i ymarfer eu crefft.
Fy nhad yng nghyfraith wnaeth gerfio y darn yma i ni pan symudon ni i'r t欧 yma.
Mae Abertawe yn bwysig iawn i fi achos dyna lle fues i'n y brifysgol.
Mae gen i lun o Oystermouth [ger y Mwmbwls, Abertawe] yma, print Kyffin ydy o. Fues i'n ddigon ffodus i gyfarfod Kyffin yn ei gartref, jyst cyn bod o'n marw.
Fe wnes i dreulio ychydig o fisoedd ym Mhatagonia yn ystod yr haf pan o'n i'n y flwyddyn gyntaf yn y coleg. Fues i'n helpu yn yr ysgol feithrin yna a dysgais Sbaeneg o fod yna.
Dwi 'di bod n么l deirgwaith wedyn yn ffilmio cyfresi Welsh in a Week, T欧 Cymreig, Pedair Wal a Cwpwrdd Dillad. Maen nhw yn bobl amazingyno.
Mae Hedd y mab yn cael gwersi piano a dwi'n eistedd i mewn er mwyn ail-gydio. Mae'n therapiwtig. Dwi'n ymarfer ychydig cyn ymarfer efo fo, fel mod i'n gallu helpu fo. Ond mae'n cyrraedd y pwynt lle fydd o yn fy helpu i!
Dwi'n mwynhau, mae'n fy helpu i ymlacio.
Nain Corrigan, sef fy hen nain o Iwerddon yn wreiddiol, oedd berchen y gadair siglo yma. Dwi'n cofio eistedd ar ei glin hi yn y gadair yma yn hogan fach, yn Ynys M么n. Pan ges i blant, wnaeth fy Nain ei rhoi hi i fi.
Roedd y gadair yma yn y stafell wely pan o'n i'n bwydo'r plant pan oeddan nhw'n fach. Erbyn hyn, mae rhywbeth neis am eistedd ynddi gyda llyfr neu wrando ar gerddoriaeth.
Mae'r olygfa o'r stafell hon yn edrych allan dros Ynys M么n, lle ges i fy ngeni. Dwi'n gallu gweld y goleudy ar Ynys Llanddwyn oddi yma ar ddiwrnod clir. Mae'n hyfryd.
Hefyd o ddiddordeb: