Plant wedi ymosod a dallu oen bach yng Nghaernarfon

Disgrifiad o'r fideo, Ymosodiad ar oen yn 'drist ac annerbyniol'

Mae'r heddlu'n dweud bod oen bach wedi colli ei olwg ar 么l i ddau fachgen ymosod arno yng Nghaernarfon.

Yn 么l Heddlu Gogledd Cymru roedd criw o ferched ifanc hefyd yn dyst i'r ymosodiad yn ardal Porth Waterloo yn y dref ar ddydd Sul, 9 Chwefror.

Dywedodd y Cwnstabl Dewi Evans o d卯m troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru fod y digwyddiad yn un "trist ac annerbyniol".

"Roedd yr oen bach yma wedi cael ei ymosod arno yn ardal Caernarfon yn Waterloo Port diwrnod o'r blaen gan ddau o hogia' tua 12 neu 13 oed," meddai mewn fideo ar Twitter.

"Hefyd mi oedd 'na saith o ferched o'r un oed yn gwylio ac yn chwerthin.

"Yn anffodus yn ystod yr ymosodiad mae'r oen bach wedi brifo'i gefn ac mae wedi colli'i olwg - amgylchiadau trist ac annerbyniol.

"Os ydych chi'n gwybod pwy oedd y plant 'ma, os gwelwch yn dda cysylltwch efo ni."

Ffynhonnell y llun, @NWPRuralCrime

Disgrifiad o'r llun, Mae'n debyg fod y ddau fachgen wedi taflu'r oen o un i'r llall yn yr ymosodiad

Mewn trydar arall yn ddiweddarach, dywedodd y t卯m troseddau cefn gwlad eu bod mewn "sioc" o wybod mai plant oedd yn gyfrifol.

"Mae ymddygiad y plant sy'n rhan o'r weithred ofnadwy hon o arteithio, brifo ac yn y pen draw dallu anifail diamddiffyn wedi ein brawychu," meddai'r llu.

Mae'r heddlu wedi apelio'n uniongyrchol ar y merched ifanc oedd yn dyst i'r digwyddiad i siarad gyda'u rhieni a chysylltu gyda'r heddlu ar 101.