Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coed wedi rhwystro ffos, medd Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef y gallai coed gafodd eu dymchwel ganddyn nhw wedi rhwystro dreiniau yn ardal Pentre, gan waethygu'r sefyllfa o safbwynt llifogydd yno.
Roedd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant eisoes wedi dweud fod gan y corff gwestiynau i'w hateb wedi i lifogydd achosi difrod sylweddol yno.
Ychwanegodd bod angen iddynt sefydlu cronfa i roi iawndal i drigolion gwerth "pedair neu bum miliwn o bunnau".
Brynhawn Iau dywedodd Bill Purvis, rheolwr tactegol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: "Roedd y glaw a ddisgynnodd i afonydd de ddwyrain Cymru dros Storm Dennis yn ddigynsail.
"Cafodd tua 95% o yst芒d goediog Pentre a blannwyd yn y 1960au eu dymchwel er mwyn gwaredu coed llarwydd heintiedig. Er bod ein cynllun gwaredu yn dilyn canllawiau ac ymarfer gorau, wrth edrych ar faint o law ddisgynnodd a'r effaith a gafodd hynny mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried wrth adolygu Storm Dennis.
"O'r lluniau sydd ar gael ar-lein, mae'n amlwg fod peth o'r coed wedi rhwystro'r grid.
"Byddwn yn adolygu ein gweithredoedd fel y gallwn ddysgu gwersi a gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."
Cafodd swyddogion t芒n eu galw i stryd ym Mhentre, Cwm Rhondda fore Iau yn dilyn adroddiadau bod d诺r wedi mynd i mewn i dai ar Stryd Pleasant.
Dywedodd un o gynghorwyr Pentre, Shelley Rees-Owen fod "pobl wedi colli popeth".
"Mae'r d诺r sy'n llifo lawr y stryd yn erchyll, yn afiach - dwi erioed wedi gweld dim byd tebyg," meddai.
Mwy o arian
Yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu mwy na'r 拢10m sydd eisoes wedi'i addo er mwyn delio ag effeithiau'r llifogydd diweddar.
Ychwanegodd Mr Drakeford fod "pethau'n newid bob awr" wrth i'r tywydd garw a sgil effeithiau Storm Dennis barhau i gael effaith mewn rhai ardaloedd.
Ar hyn o bryd mae un rhybudd llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a dolau Trefalun.
Mae un dyn wedi s么n am ei brofiad o achub menyw oedd yn sownd ar do car am 12 awr ar y ffin rhwng Sir Fynwy a Chaerloyw.
Fe wnaeth Mark Smith, 51 oed a Geoff Handley eu gorau i'w chadw yn gynnes tan fod y gwasanaethau brys yn cyrraedd fore Mawrth.
"Fe wnes i ei thynnu fyny a'i chofleidio er mwyn ei chadw yn gynnes," meddai Mark Smith.
"Mi oedd hi'n teimlo fel amser hir iawn. O'n i'n meddwl ei bod hi'n mynd i farw, dim amheuaeth am hynny."
Yn oriau m芒n fore Iau cafodd dynes ei hachub o afon yn Aberhonddu ar 么l cael ei chanfod yn cydio mewn cangen coeden.
Yng Nghastellnewydd Emlyn mae pobl ifanc wedi cael eu rhybuddio i beidio neidio oddi ar bont yn y dref i mewn i'r Afon Teifi, gan fod yr afon yn parhau i fod yn llifo'n gryf yn dilyn y glaw.
Mae nifer o linellau trenau yng Nghymru yn parhau i fod ar gau, gan gynnwys rhwng Aberd芒r a Phontypridd, Glyn Ebwy i Gaerdydd, Y Fenni i Henffordd, a Blaenau Ffestiniog i Landudno.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru fod amodau gyrru'n wael, gan gynghori pobl i fod yn ofalus a pheidio 芒 gyrru drwy dd诺r llifogydd.
Mae safle trin d诺r yn Nhrefynwy yn parhau i fod ar gau yn dilyn y llifogydd, gyda thrigolion yn cael cyngor i beidio defnyddio mwy o gyflenwad nag sydd angen.
Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Mr Drakeford y byddai arian ar gael i unigolion yn ogystal 芒 busnesau sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd diweddar, yn enwedig pobl oedd heb yswiriant.
"Roedden ni'n dweud 拢10m yn gynharach yn yr wythnos jyst i roi hyder i'r bobl y bydd arian yna. Do'n ni ddim wedi dweud dim ond 拢10m," meddai.
"拢10m i ddechrau, ac os fydd y darlun yn newid a bydd rhaid i ni gael mwy o help, ni'n barod i weld beth arall ni'n gallu gwneud. Yn y tymor hir bydd miliynau o bunnoedd."
'Ffafrio'
Yn gynharach roedd arweinydd Cyngor Sir G芒r, Emlyn Dole, wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o "ffafrio" ardaloedd yng nghymoedd y de ble roedd eu cefnogaeth nhw gryfaf, o'i gymharu 芒'r ymateb pan gafodd ei ardal ef ei effeithio gan Storm Callum 18 mis yn 么l.
"Roedd ein trigolion ni yn yr un sefyllfa ddifrifol y tro diwethaf, ond doedd dim ceiniog i helpu," meddai cynghorydd Plaid Cymru.
Mewn ymateb dywedodd Mr Drakeford eu bod yn rhoi arian i awdurdodau lleol ar draws Cymru pan oedd hi'n dod at daclo effaith a difrod llifogydd.
Mae disgwyl i arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn ymweld ag ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd ddydd Iau.
Mae Mr Corbyn ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, eisoes wedi beirniadu Prif Weinidog y DU, Boris Johnson am beidio ag ymateb yn ddigon cryf i'r argyfwng.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod cyfrifoldeb dros amddiffynfeydd llifogydd wedi'i ddatganoli ac felly'n fater i Lywodraeth Cymru.