Llifogydd: Galw am arian gan Lywodraeth y DU er mwyn adfer

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Fe welwyd llifogydd, fel yma yn Nantgarw, ar draws Rhondda Cynon Taf y penwythnos diwethaf

Mae Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad Llafur Cymru wedi galw ar y canghellor newydd i ariannu'r gwaith o adfer cymunedau yn ne Cymru yn dilyn y llifogydd diweddar.

Mewn llythyr at Rishi Sunak maen nhw'n gofyn am grant o 拢30m i dalu am waith ar draws Rhondda Cynon Taf.

Maen nhw hefyd eisiau i bobl sydd wedi'u taro gan y llifogydd i beidio gorfod talu treth cyngor a chyfraddau busnes am flwyddyn.

Mae'r aelodau yn cydnabod fod rhai materion wedi'u datganoli, ond maen nhw eisiau gweithredu ar lefel y DU.

'Nawdd ar frys'

"Rydyn ni'n credu yn yr Undeb, ac felly'n credu pan fo unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yn cael ergyd wael, y dylai'r DU gyfan helpu, dim ots beth yw'r rheolau ariannu arferol," meddai'r llythyr at y Trysorlys.

"Rydyn ni felly'n eich annog i ddarparu nawdd ar frys i Rondda Cynon Taf."

Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan bedwar AS - Chris Elmore (Ogwr), Chris Bryant (Rhondda), Beth Winter (Cwm Cynon) ac Alex Davies-Jones (Pontypridd).

Mae tri AC - Mick Antoniw (Pontypridd), Vikki Howells (Cwm Cynon) a Huw Irranca-Davies (Ogwr) hefyd wedi ychwanegu eu henwau at y cais.

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, wedi'i arwyddo hefyd.

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhannau helaeth o ganol Pontypridd dan dd诺r yn dilyn Storm Dennis

Yn ysgrifennu at Mr Sunak, wnaeth olynu Sajid Javid fel canghellor ychydig wythnosau yn 么l, mae'r gwleidyddion yn dweud y bydd trwsio ffyrdd, pontydd ac eiddo'r cyngor yn costio hyd at 拢30m.

"Mae hynny'n llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei roi mewn arian cyfalaf i'r cyngor yn flynyddol - 拢13.4m," meddai'r llythyr.

"Mae'r difrod i eiddo preifat ar draws y sir yn debygol o fod yn agos at 拢150m."

Mae'r llythyr hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i ariannu arolwg brys o gymunedau pyllau glo de Cymru er mwyn mynd i'r afael 芒 phryderon am dirlithriadau yn dilyn wythnosau o law.

Mae pyllau glo yn parhau dan ofal yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Mr Bryant wrth 大象传媒 Cymru: "Heb gymorth ychwanegol fe allai Rhondda Cynon Taf golli ei holl arian wrth i ni ailadeiladu pontydd, ffyrdd ac amddiffynfeydd llifogydd."

'Asesu cost y difrod'

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gweithio "24 awr gydag asiantaethau er mwyn cadw pobl yn ddiogel" yn sgil y llifogydd.

"Mae 拢10m ar gael ar gyfer yr ymateb cychwynnol i'r stormydd," meddai.

"Mae'r arian yma ar gael yn syth, tra'n bod yn parhau i weithio ar asesu cost y difrod.

"Bydd hyn yn penderfynu pa gefnogaeth ariannol bellach sydd ei hangen, ac yn ddibynnol ar y swm hynny, byddwn yn troi at Lywodraeth y DU i ddarparu adnoddau."

Ychwanegodd y llefarydd y bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn trafod diogelwch pyllau glo a'r cymunedau sydd o'u hamgylch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod mewn cysylltiad ynghylch y llifogydd "gydol yr wythnos ddiwethaf" gyda'r gwasanaethau brys, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd: "Tra bod amddiffynfeydd llifogydd a'r ymateb i lifogydd yng Nghymru wedi eu datganoli, byddwn ni'n parhau i drafod a chefnogi Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad 芒 chymorth llifogydd a diogelwch tomenni glo."