大象传媒

Plastigau meicro yn Llyn Glaslyn yn destun 'braw'

  • Cyhoeddwyd
Llyn GlaslynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd samplau eu tynnu o Lyn Glaslyn fis Ebrill 2019

Dywedodd amgylcheddwyr fod darganfod darnau bach iawn o blastig mewn d诺r ar Yr Wyddfa yn destun "braw".

Cafodd darnau o blastig meicro eu canfod mewn samplau a dynnwyd o Lyn Glaslyn fis Ebrill y llynedd.

Yn 么l Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor, maen nhw'n debygol o fod wedi disgyn yn y glaw.

Bu'r amgylcheddwr Laura Anderson yn tynnu samplau rhwng Llyn Glaslyn - sydd 2,000 troedfedd uwchlaw lefel y m么r - a'r m么r ei hun yn Ebrill 2019.

Roedd y canlyniadau'n dangos tri darn o blastig meicro am bob litr o dd诺r y llyn, ac roedd hynny'n codi i wyth am bob litr ger yr aber ym Mhorthmadog.

Ond mae disgwyl i'r llygredd fod yn llawer gwaeth mewn gwirionedd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Laura Anderson nawr yn teithio i barciau cenedlaethol eraill er mwyn cymharu'r sefyllfa

Cafodd y samplau eu dadansoddi gan yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, ond gan ddefnyddio technegau syml wrth i wyddonwyr geisio datblygu dull oedd yn fforddiadwy i ysgolion a cholegau.

Dywedodd Dr Dunn: "Mae'r canlyniadau'n codi braw pan ydych chi'n ystyried fod hyn ar ben mynydd mewn lle go anghysbell.

"Fe fyddai dadansoddiad mwy manwl bron yn sicr o ddangos mwy o blastig.

"Fe ddylwn ni fod wedi fy synnu gan ei fod yn beth mor erchyll, ond yn anffodus dydw i ddim."

Ffynhonnell y llun, Christian Dunn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Christian Dunn yn credu bod y llygredd yn llawer gwaeth mewn gwirionedd

Mae gwyddonwyr yn credu fod plastig meicro - unrhyw beth sy'n llai na 5mm mewn maint - a plastig nano (sydd ond i'w gweld o dan feicrosg么p) yn bresennol yn yr aer ac mewn glaw.

Dywedodd Dr Dunn mai dyma'r ffynhonnell mwyaf tebygol o'r plastig meicro ar yr Wyddfa, ond gallai fod sbwriel yn cael ei chwalu hefyd yn ffactor.

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod sbwriel - yn enwedig poteli a phacedi plastig - yn broblem fawr, a bod timau o wardeniaid gwirfoddol yn casglu bron 400 bag o sbwriel o'r mynydd bob blwyddyn.

Ar 么l tynnu sylw at y broblem ar Yr Wyddfa, bydd Laura Anderson, o Gricieth, nawr yn teithio i barciau cenedlaethol ar draws y DU i gasglu mwy o samplau.

Dywedodd: "Roedd yn ofnadwy clywed bod plastig meicro yn y d诺r a gasglwyd yn Eryri.

"Ry'n ni nawr am geisio gweld pa mor eang yw'r broblem, ac edrych ar lynnoedd eraill yn y parciau cenedlaethol."