Storm Dennis: 'Does dim arian gyda ni i drwsio'r t欧'

Disgrifiad o'r llun, Mae Rebecca Chadwick a'i mab Sam wedi colli ei holl eiddo yn y llifogydd diweddar
  • Awdur, Alun Thomas
  • Swydd, Newyddion Radio Cymru

Mae teulu o ardal Pontypridd wedi bod yn s么n am y profiad o orfod dianc rhag y llifogydd gafodd eu hachosi gan storm Dennis fis Chwefror.

Bu'n rhaid i Rebecca Chadwick a'i mab Sam nofio i ddrws eu cartref yn Ynys-y-bwl, a chael eu cludo mewn cwch gan y gwasanaeth t芒n i ddiogelwch.

Dechreuodd y ddrama yn oriau m芒n fore Sul, Chwefror 16eg, pan gafodd Rebecca ei deffro gan s诺n larwm ei char.

"Fe wnes i fynd lawr y grisiau a rhoi'r golau ymlaen, ac roedd tipyn bach o dd诺r ar y llawr.

"Edrychais i ar y drws, ac roedd wal o dd诺r, so 'nes i fynd lan y grisiau a dihuno Sam, fy mab, ac wrth i ni gyrraedd gwaelod y grisiau oedd y d诺r yn dod mewn trwy'r drws ac o'dd dim byd oedden ni'n gallu gwneud i stopio fe.

"Aethon ni n么l lan llofft a ffonio'r gwasanaeth t芒n, ac wrth i ni siarad 芒 nhw ar y ff么n, wnaeth y d诺r gynyddu, a nawr o'n i tua tair step o'r top, ac o'dd jyst d诺r ymhobman."

Fe gawson nhw eu hachub gan y gwasanaeth t芒n, ond roedd rhaid i Sam nofio dan y d诺r i chwilio am yr allwedd i agor drws y t欧.

'Popeth mor frwnt'

"Roedd y d诺r mor ddu," meddai "a phan o'n i'n edrych am yr allwedd o'n i'n gallu teimlo faint mor frwnt oedd popeth. D'on i ddim eisiau meddwl beth oedd yn y d诺r pan wnes i fynd odano fe."

Pan ddaeth y criwiau t芒n i'r t欧, fe ddywedon nhw bod yn rhaid i Rebecca a Sam fynd i'r d诺r er mwyn cyrraedd y drws.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Glaw Storm Dennis yn achosi i Afon Taf orlifo ym Mhontypridd ac roedd y tai ar Stryd Sion dan dd诺r

"Wnaethon nhw ddod mewn a jyst dweud wrthon ni 'you've just gor to go for it'," meddai Rebecca, "ac yna dywedon nhw 'peidiwch a meddwl beth sydd yn y d诺r, paid a meddwl pa mor oer maen mynd i fod', o'dd rhaid i ni jyst mynd.

"So wnaethon ni nofio wedyn o'r grisiau i'r drws, a wedyn mynd ar rafft mas i waelod y stryd.

"On i jyst yn ein pyjamas ni - o'dd dim sgidiau 'da ni, o'n i jyst yn sefyll yna a meddwl beth ni'n mynd i wneud nawr."

Ar 么l mynd i d欧 ei rhieni yn y pentre am gyfnod, fe ddaeth Rebecca n么l i'w th欧 ychydig yn ddiweddarach, ac roedd y d诺r wedi mynd.

"Wnaethon ni ddod n么l mewn hanner awr.. falle tri chwarter awr.. a doedd dim d诺r ar 么l o gwbl.. o'dd e jyst wedi mynd.. O'dd e fel tsunami - wnaeth y d诺r ddod mewn.. o'dd e fel wal o dd诺r a wedyn wnaeth e fynd."

Colli gwaith plant ysgol

Fe adawodd ei 么l ar y t欧, gan adael haenau o fwd ac annibendod ar hyd y llawr gwaelod.

Maen nhw wedi colli eu celfi i gyd, yn ogystal 芒 phethau personol fel lluniau a gwaith y plant o'r ysgol lle mae Rebecca'n dysgu.

Cafodd ei char ei ddinistrio hefyd, gan fod llif y d诺r wedi sgubo'r cerbyd lawr y stryd.

Disgrifiad o'r llun, Pontypridd yn dilyn y glaw nos Sadwrn 15fed o Chwefror, 2020

Ond pan gysylltodd Rebecca 芒'i chwmni yswiriant, cafodd wybod nad oedd ei pholisi yn ddilys, oherwydd mai storm achosodd y difrod i'r t欧.

Mae hi wedi derbyn arian gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n rhoi 拢500 i bob t欧 gafodd ei daro gan y llifogydd

"Dan ni wedi cael y 拢500 gan Rhondda Cynon Taf, ac i ddweud y gwir beth mae 拢500 yn mynd i'w wneud? Dim lot.

"O'dd rhaid i ni brynu ffwrn a pheiriant golchi. O'dd rhaid i ni ddewis beth oedden ni'n mynd i brynu - peiriant golchi a ffwrn neu oergell. Does dim arian gyda ni i drwsio'r t欧."

'Styc yma nawr'

Mae hi'n llawn canmoliaeth o ymateb y gymuned i'r llifogydd. Drannoeth y llifogydd roedd degau o bobl yno ar y stryd y tu fas i'w th欧 yn barod i helpu.

"Wnaeth pawb o'r pentre ddod mas.. odd tua 50 o bobl yma - wnaeth y brwsys dod mas... wnaeth y fferm lleol ddod lawr ac odd e jyst yn scoopo'r holl sludge fyny.. achos odd pawb jyst eisiau helpu.

"Odd pobl o Bontypridd ac oedden nhw wedi diodde lot hefyd, ond odd pobl wedi dod 芒 bwyd i ni achos o'dd dim trydan 'da ni, o'dd dim ffordd o'dd unrhyw un yn y stryd yn gallu bwyta.

"Wnaethon nhw ddod a jacket potatos a bwyd poeth a diodydd poeth."

"Ers hynny ma pobl wedi bod yn cnocio'r drws... maen nhw'n dod 芒 brwsys... maen nhw'n dod 芒 disinfectant.. popeth. Bob dydd mae'n nhw'n galw a jyst gofyn 'Ti'n olreit?'"

Mae hefyd wedi cael cymorth gan bobl dyw hi ddim wedi bod mewn cysylltiad 芒 nhw ers blynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Disgrifiad o'r llun, Ar 么l i'r d诺r gilio, fe ddechreuodd y gwaith budur o glirio'r mwd a'r llanast - fel yma ym Mhontypridd

Ychwanegodd: "Dwi wir yn chwilio am bobl i helpu.. ffrindiau ysgol.. ffrindiau o flynyddoedd yn 么l sydd wedi cysylltu 芒 fi ar facebook. Mae un yn arbennig.. dwi heb siarad da fe ers tua trideg mlynedd a wnaeth e jyst galw ar y ff么n a dweud dwi'n dod lan i helpu chi."

Bellach mae Rebecca a Sam yn gorfod edrych i'r dyfodol a dechrau o'r dechrau i bob pwrpas.

"Mae'n deimlad trist iawn," meddai Sam, "ni wedi colli popeth a gweld mam yn adeiladu'r t欧 o ddim byd ond nawr mae wedi cael ei ddinistrio."

"O'dd Sam a fi wedi eistedd lawr," meddai Rebecca,"a dweud wel falle allen ni symud mas a gwerthu'r t欧 achos pob amser mae glaw neu storm ni'n mynd i feddwl ydy hwn yn mynd i ddigwydd eto.

"Ond y peth yw, does neb yn mynd i brynu'r t欧 oes e? So da ni'n styc yma nawr."