Cadarnhad y bydd newid yng ngeiriad cwestiwn Cyfrifiad
- Cyhoeddwyd
Bydd y Cyfrifiad y flwyddyn nesaf yn cydnabod pobl ddu neu Asiaidd sy'n disgrifio eu hunain fel Cymry.
Roedd yna bryderon bod y ffurflen ddrafft yn anwybyddu lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru trwy beidio 芒 rhoi'r opsiwn i unigolion ddatgan eu bod yn Gymro neu'n Gymraes.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bellach y bydd y termau "Asiaidd Cymreig" a "Du Cymreig" wedi'u cynnwys ar y ffurflen.
Daw'r tro pedol, medd llefarydd, wedi "trafodaethau adeiladol gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a chyfres o brofion ynghylch cwestiwn ethnigrwydd y Cyfrifiad".
Ychwanegodd fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol "wedi argymell bod holiadur y Cyfrifiad yng Nghymru yn cynnwys y termau 'Asiaidd Cymreig' a 'Du Cymreig' yn y disgrifiadau lefel-uchel, ynghyd ag 'Asiaidd Prydeinig' a 'Du Prydeinig' yn y cwestiwn gr诺p ethnig".
"Bydd y newid yma'n cael ei adlewyrchu yn holiadur Cyfrifiad 2021 yng Nghymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019