Beth fydd effaith coronafeirws ar chwaraeon yng Nghymru?

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai cefnogwyr p锚l-droed wedi dechrau gwisgo mygydau i fynd i gemau

Mae ymlediad coronafeirws wedi effeithio ar rhai o gampau Cymru'n barod ac fe all effeithio ar gemau a digwyddiadau'r dyfodol.

Dyma sydd wedi digwydd hyd yn hyn, a beth all ddigwydd yn y dyfodol.

笔锚濒-诲谤辞别诲

Mae rheolwr t卯m Cymru, Ryan Giggs wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar gemau paratoadol Cymru ym mis Mawrth er yr ymlediad, a'i fod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.

Bydd Cymru'n wynebu Awstria yn Abertawe ar 27 Mawrth, a'r UDA yng Nghaerdydd ar 30 Mawrth.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol UEFA, Theodore Theodoridis fod ganddyn nhw "gynlluniau ar gyfer popeth" wrth drafod yr effaith posib ar Euro 2020 yn yr haf ond nad oedden nhw am rannu manylion ar hyn o bryd.

Ychwanegodd llywydd UEFA, Aleksander Ceferin ei fod yn "optimistaidd" ac nad oedd eisiau "meddwl am senarios tywyll".

Fe all paratoadau dau o wrthwynebwyr Cymru yn yr Ewros - yr Eidal a'r Swistir - gael eu heffeithio o achos ymlediad y feirws gan fod y sefyllfa wedi cael effaith uniongyrchol ar gynghreiriau cartref y ddwy wlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cymro Aaron Ramsey yn chwarae i glwb Juventus yn yr Eidal

Mae rhai gemau yn uwch gynghrair y ddwy wlad wedi'u gohirio, ac mae Asiantaeth Wrthgyffuriau'r Byd wedi canslo cyfarfod blynyddol yr asiantaeth yn ninas Lausanne yn y Swistir.

Dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Harris y gallai'r haint effeithio ar gynlluniau'r clwb i fynd i wersyll ym Mhortiwgal yn yr haf er mwyn paratoi ar gyfer y tymor nesaf.

Ychwanegodd prif hyfforddwr Abertawe, Steve Cooper y bydd yn rhaid i'w garfan fod yn "ofalus" wrth gysylltu gyda chefnogwyr wrth iddyn nhw ddilyn cyngor meddygol.

Rygbi'r Undeb

Cafodd taith y Gweilch i chwarae yn yr Eidal ar 29 Chwefror ei gohirio. Roedd y Gweilch i fod i chwarae Zebre yn Parma.

Mae'r g锚m rhwng y Dreigiau a Benetton yn y Pro14 ar nos Wener 6 Mawrth yn dal i fynd yn ei blaen.

Mae rhai gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi cael eu heffeithio hefyd, gyda'r g锚m rhwng yr Iwerddon a'r Eidal yn Nulyn ar 7 Mawrth wedi ei gohirio, ynghyd 芒 gemau'r merched a dan-20 ar yr un penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Disgrifiad o'r llun, Meddygon yn delio gydag achos o coronafeirws yn Brescia, yr Eidal

Mae g锚m olaf Lloegr yn y bencampwriaeth yn yr Eidal ar 14 Mawrth hefyd wedi ei gohirio, ond does dim un o gemau Cymru wedi eu heffeithio hyd yn hyn.

"Rwy'n credu y bydd pawb yn siomedig os bydd popeth yn diflannu," meddai hyfforddwr Cymru Wayne Pivac.

"Ond rhaid i chi roi iechyd y cyhoedd [o flaen popeth] ac fe fydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud ar lefel lywodraethol."

Campau eraill

Bydd nifer o athletwyr o Gymru'n gobeithio cystadlu yn y Gemau Olympaidd yr haf hwn, sydd i fod i gael eu cynnal yn Tokyo o 24 Gorffennaf i 9 Awst.

Dywedodd gweinidog Olympaidd llywodraeth Japan ddydd Mawrth y gallai'r gemau gael eu gohirio tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn o achos pryderon am y coronafeirws.

Ond dywedodd llywydd y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd, Thomas Bach nad oedd y geiriau "canslo" a "gohirio" wedi eu crybwyll mewn perthynas 芒 Tokyo 2020 yng nghyfarfod y pwyllgor ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Elinor Barker wedi iddi gipio medal aur ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd yn Berlin yn ddiweddar

Mae'r trefnwyr wedi cytuno i gwtogi taith y fflam Olympaidd, gyda'r fflam i fod i gael ei thanio yng Ngroeg wythnos nesaf.

Y Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd sydd gyda'r hawl i ganslo'r gemau, ond dywedodd Bach fod y corff yn parhau i fod "yn hynod o hyderus o ran llwyddiant y gemau" yn Japan.

Bydd yr ymladdwr taekwondo Jade Jones, y beiciwr Elinor Barker a'r hwyliwr Hannah Mills i gyd yn gobeithio amddiffyn eu teitlau Olympaidd.

Fe fydd enillydd y Tour de France Geraint Thomas hefyd yn gobeithio ychwanegu at fedal aur yng nghamp seiclo ar y ffordd, i ychwanegu at y ddwy fedal aur a enillodd ar y trac yn 2008 a 2012.

Mae tymor Thomas wedi ei effeithio'n barod, gyda'i d卯m, Ineos, yn tynnu allan o bob ras hyd at 23 Mawrth o achos y "sefyllfa ansicr iawn" o gwmpas ymlediad coronafeirws.