大象传媒

'Doeddwn i ddim yn gallu edrych ar fy hun yn y drych'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe gollodd Elen ei gwallt yn 13 oed

Dychmygwch orfod gorchuddio pob drych yn y t欧 am nad ydych chi'n gallu wynebu edrych arnoch chi'ch hun?

Dyna'r profiad dychrynllyd fu'n rhaid i un ferch o Ben Ll欧n ddelio ag o a hithau ond yn 13 oed.

Cafodd Elen ddiagnosis alopesia areata ddwy flynedd yn 么l ar 么l i'w gwallt ddisgyn allan yn ddisymwth yn y gawod.

Wrth iddi alw am fwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr, mae stori Elen wedi dod i'r brig drwy Gymru yng nghystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 大象传媒 eleni.

Roedd hi'n cael cawod ar nos Sul arferol ym mis Ionawr 2018, yn paratoi ar gyfer yr ysgol y diwrnod canlynol, pan sylweddolodd bod rhywbeth mawr o'i le.

Roedd yn sioc enfawr a hithau erioed wedi clywed am alopesia areata cyn hynny.

"Nes i edrych lawr yn y gawod ac o'dd y llawr i gyd yn ddu," meddai. "Rhoi'n nwylo 'n么l fyny a chael sioc fawr, o'dd fy ngwallt i gyd yn dechra' disgyn o'na.

"O'r noson honno 'mlaen o'n i'n cyfro drych y toiled, yn llofft, yr hall efo tywel, unrhyw fath o flanced, wbath. Achos o hynny 'mlaen do'n i jyst ddim yn licio'r ffordd o'n i'n edrych."

Dim triniaeth benodol

Mae alopesia areata yn gallu taro unrhyw un mewn unrhyw oed, gyda rhyw 2% o'r boblogaeth yn diodde'. Mae rhywfaint mwy o risg os oes hanes o'r cyflwr yn y teulu.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim ffigyrau am faint o bobl sydd 芒'r cyflwr yng Nghymru.

Mae cleifion fel arfer yn mynd yn foel mewn mannau, neu'n gallu colli eu gwallt i gyd, ac mae'n gallu effeithio ar bob rhan o'r corff.

Dydy'r clefyd ddim yn gysylltiedig ag unrhyw gyflyrau iechyd eraill ac mae cleifion fel arfer yn iach fel arall.

Does 'na ddim triniaeth benodol i'r cyflwr ac mewn rhai achosion dydy gwallt y claf ddim yn tyfu'n 么l.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwallt Elen wedi tyfu yn 么l erbyn hyn

Yn achos Elen, mae hi'n teimlo'n ffodus bod ei gwallt wedi tyfu'n 么l erbyn hyn ac mae'n teimlo bod y profiad wedi'i gwneud hi'n gryfach.

Ond mae'n galw am roi mwy o sylw i'r cyflwr alopesia a mwy o drafod am yr effaith seicolegol.

"'Nath o ddim jyst effeithio fi ar fy mhen, 'nath o effeithio fi ar fy aeliau a 'chydig bach ar fy amrannau," meddai.

"Merch 13 oed ar yr adeg. Ti'n dechra' hoffi colur, gwneud dy wallt, petha' merchetaidd fel 'na wrth dyfu fyny, ma' hynny'n hollol naturiol.

"Ar y pryd o'n i'n meddwl nad oedd 'na ddim byd gwaeth yn gallu digwydd.

"Ar 么l cael y diagnosis, adeg hynny nath y ffordd o'n i'n meddwl amdana fi'n hun ddechra' dirywio. Y ffordd o'dd pobl yn sb茂o. Y cyfrynga' cymdeithasol, o'dd hynny wir yn ffordd o 'nhorri i lawr.

"Meddwl bod 'na ddim siawns i fi gael gwallt ar fy mhen, alla' i'm cael gwallt yn mynd drwy mysedd, alla' i'm cael gwallt yn mynd drwy straightener neu curler.

"Adeg hynny 'nath fy iechyd meddwl i rili ddechra' dirywio. Deffro'n meddwl byddai'r diwrnod yn llawn o gymharu'n hun efo rywun arall o ran fy ngwallt a'n edrychiad."

Er i Elen gael cefnogaeth wych gan ei theulu a'i ffrindiau agos, roedd 'na gyfnodau anodd.

"Ysgol o'dd y gwaetha' - yngl欧n 芒'r sibrwd, y siarad a'r cwestiynu," ychwanegodd Elen.

"O'dd 'na un achlysur lle o'dd 'na rywun yn galw enwau ac o'dd rhaid fi jyst fod yn aeddfed ac anwybyddu. Ond do mi 'nath o roi fi lawr, pwy fasa ddim yn teimlo hynna?"

Fe gafodd Elen wig am ddim drwy elusen Little Princess Trust ac roedd hynny'n help mawr iddi.

"Ella fod o ond yn gap llawn gwallt, ond wrth roi o ar fy mhen i fynd i'r ysgol bob bore o'n i'n teimlo fatha fi eto, o'n i'n teimlo fatha 'swn i'n gallu mynd drwy'r dydd unwaith eto."

'Prowd iawn ohoni'

Roedd yn gyfnod eithriadol o anodd i deulu Elen hefyd, fel y sonia ei mam, Nia: "Dwi'n meddwl bod o wedi effeithio ar bawb o'r teulu yn cynnwys ei chwiorydd, ond wrth siarad, roedd o'n helpu.

"Dwi'n prowd iawn ohoni ac yn falch bod hi 'di dod allan yn gryfach person ac yn hyderus, ac yn hogan hapus."

Ffynhonnell y llun, BBV

Wrth i Elen rannu ei stori fel rhan o gystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 大象传媒, mae hi'n gobeithio tynnu mwy o sylw at gyflwr alopesia areata.

"Dwi ddim yn meddwl bod 'na ddigon o bobl yn gwybod am y cyflwr," meddai. "Dwi'n meddwl fod pobl yn ei ystyried fel 'o, ti'n colli dy wallt' a dyna fo.

"Ond yn feddyliol, dwi ddim yn meddwl bod ganddyn nhw lawer o syniad be o'n i'n mynd drwy, be' o'n i am fynd drwy yn hirdymor.

"Yr effaith feddyliol sydd angen siarad amdano fo fwy.

"Dwi mor ffodus i gael fy ngwallt naturiol i wedi tyfu'n 么l. Dwi'n hapus iawn yn lle ydw i'n feddyliol r诺an.

"Ond o'dd o yn afiach o brofiad ac o'dd o'n rili gwneud fi sylweddoli faint o'n i isho gwerthfawrogi pob un peth."

Pynciau cysylltiedig