大象传媒

Gwrthwynebu adweithydd niwclear newydd i Drawsfynydd

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth nifer o ymgyrchwyr i'r cyfarfod ym Mhorthmadog nos Fercher

Mae na alwad ar Lywodraeth Prydain i beidio cefnogi unrhyw gynllun i adeiladu adweithydd niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.

Yn ddiweddar cyhoeddodd cwmni Rolls-Royce y bydden nhw'n dymuno codi nifer o adweithyddion drwy Brydain.

Mae'r cwmni eisiau codi rhwydwaith o Adweithyddion Modiwl Bach (SMR) - tua thraean maint yr atomfeydd presennol - ac yn gobeithio dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU o fewn y flwyddyn nesaf.

Yn 么l y cwmni mae safle'r hen adweithydd yn Nhrawsfynydd yn "ticio'r holl flychau" o ran arloesi gyda'r dechnoleg.

Gwrthwynebu

Nos Fercher daeth 50 o ymgyrchwyr gwrth-niwclear i gyfarfod ym Mhorthmadog, wedi ei drefnu gan y mudiad Cadno, i wrthwynebu unrhyw ddatblygiad o'r fath.

Deilwen Evans yw llywydd Cadno, a dywedodd wrth 大象传媒 Cymru Fyw: "Mae hwn wedi cael ei seilio ar y llongau tanfor niwclear a dim ond rhai militaraidd sydd wedi bod hyd yn hyn a da ni'n teimlo bod Traws yn cael ei ddefnyddio fel lle arbrofi eto.

"Mae gwledydd eraill yn gwrthod niwclear a dwi isio i Ynysoedd Prydain wrthod niwclear a mynd ar 么l pethau sydd yn l芒n a dim gwastraff ar eu holau nhw i'r cenedlaethau sy'n d诺ad".

Ffynhonnell y llun, Rolls-Royce
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o Adweithydd Modiwl Bach (SMR)

Ond yn lleol mae na gefnogaeth gan rai i'r egwyddor o gael pwerdy niwclear newydd yn Nhrawsfynydd - os bydd yn ddiogel. Eu dadl yw y byddai'n hwb economaidd mawr i'r ardal.

Mae'r Cynghorydd Keith O'Brien yn aelod o Gyngor Cymuned Trawsfynydd. Dywedodd: "Mae'r farn yn gyffredinol yn amodol bod o - un - yn ddiogel ac - yn ail - bod o'n creu swyddi o ansawdd."

Dywed y cynghorydd bod angen i'r swyddi fod yn rhai "hir dymor yn hytrach na bod na orddibyniaeth ar swyddi tymhorol, fel sy'n dueddol o fod yn yr ardal yma."

Mae cwmni Rolls-Royce yn credu bod modd codi adweithydd SMR yn Wylfa ar Ynys M么n hefyd, ond mae datblygwyr safle Wylfa Newydd, Horizon wedi gwrthod y syniad gan obeithio bydd hi'n dal yn bosib codi atomfa maint llawn yno.