大象传媒

Canslo gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Awstria a'r UDA

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ryan Giggs i fod i gyhoeddi ei garfan ddydd Mercher nesaf

Mae'r g锚m gyfeillgar rhwng Cymru ac Awstria yn Stadiwm Liberty ar 27 Mawrth bellach wedi ei chanslo yn sgil coronafeirws.

Dywedodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru fod yr ornest rhwng Cymru C a Lloegr C yng Nghaernarfon ar 24 Mawrth hefyd wedi ei chanslo "yn sgil y datblygiadau diweddar".

Mae gemau p锚l-droed domestig ar bob lefel yng Nghymru hefyd wedi eu gohirio nes o leiaf 4 Ebrill, "yn dibynnu ar y cyngor meddygol a'r amodau gan yr awdurdodau perthnasol ar y pryd".

Roedd CBDC eisoes wedi cadarnhau ddydd Iau na fyddai'r g锚m gyfeillgar yn erbyn UDA yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 30 Mawrth yn cael ei chwarae bellach.

Mae disgwyl i UEFA gynnal cyfarfod ddydd Mawrth i drafod ymateb yr awdurdodau p锚l-droed i coronafeirws, gyda chystadleuaeth Euro 2020 ar yr agenda.

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd CBDC fod y penderfyniad diweddaraf wedi'i wneud oherwydd "mai iechyd a diogelwch cefnogwyr, chwaraewyr a rhanddeiliaid yw'r flaenoriaeth".

Dywedodd CBDC y "bydd pob archeb yn cael ei ad-dalu'n llawn yn unol 芒 phris swyddogol y tocynnau a brynwyd" ar gyfer y gemau sydd wedi'u canslo.

"Bydd ad-daliadau'n cael eu prosesu dros y 14 diwrnod gwaith nesaf a bydd yn cael ei ad-dalu i bob cwsmer yn yr un ffordd ag y talwyd am y tocynnau," meddai datganiad.

"I'r rheiny ddefnyddiodd arian parod neu siec i dalu, bydd yr ad-daliad yn cael ei wneud drwy drosglwyddiad banc.

"Bydd ad-daliadau cerdyn yn cael eu prosesu yn 么l i'r cerdyn credit neu debit a ddefnyddiwyd ar gyfer yr archeb. Os yw'r cerdyn hwn wedi dod i ben bydd aelod o'r t卯m tocynnau yn cysylltu 芒 chi ar gyfer prosesu'r ad-daliad.

"Mae'r tocynnau sydd eisoes wedi eu derbyn yn ddi-rym ac ni fydd modd eu defnyddio ar gyfer unrhyw g锚m yn y dyfodol."