大象传媒

Gwaith celf ffoaduriaid yn ysbrydoli arddangosfa

  • Cyhoeddwyd
Llun Monet o longau ar Afon TafwysFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun Monet o longau ar Afon Tafwys

Llun gan Monet sy'n serennu mewn arddangosfa newydd o gelf gan ffoaduriaid ym Machynlleth.

Mae amgueddfa celf gyfoes Machynlleth, MOMA, yn canolbwyntio ar waith artistiaid sydd wedi ffoi o'u cartrefi.

Mae gwaith artistiaid o Gymru - gan gynnwys yr arlunydd Josef Herman, sy'n wreiddiol o Wlad Pwyl - hefyd ymhlith y lluniau sy'n cael eu harddangos yn yr oriel.

Dywedodd curadur yr arddangosfa, Dr Peter Wakelin, ei fod eisiau tynnu sylw at "ddylanwad positif" artistiaid a oedd hefyd yn ffoaduriaid.

Teitl yr arddangosfa yw Lloches a Bywyd Newydd, gan ganolbwyntio ar ffoaduriaid o'r Nats茂aid, yn ogystal 芒 mynd yn bellach n么l at y rhai wnaeth ddianc rhyfel Ffranco-Prwsia ac ymfudwyr gwleidyddol mwy diweddar.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Peter Wakelin: Cyfle i werthfawrogi dylanwad positif ffoaduriaid

'Amgylchedd newydd'

Cafodd y gwaith gan Claude Monet ei beintio yn Llundain ar 么l iddo ddianc rhag rhyfel Ffranco-Prwsia yn 1870, ac mae'n dangos yr olygfa ar Afon Tafwys.

"Roedd Monet newydd ddechrau datblygu ei syniadau am argraffiadaeth (impressionism) pan ddechreuodd y rhyfel yn 1870," meddai Dr Wakelin.

"Wnaeth e ffoi dros y m么r yn sydyn, daeth i Brydain, ac fe syrthiodd mewn cariad 芒 pheintio Llundain.

"Yn ystod y flwyddyn roedd e'n byw yma fe gafodd drafferth fawr, a dywedodd y byddai bron wedi llwgu pe na bai ei asiant wedi dod gyda fe, ac wedi llwyddo gwerthu rhai gweithiau celf.

"Ond yr hyn roedd e'n caru am fyw yma oedd y cyfle i astudio mewn amgylchedd newydd, yn enwedig bywyd diwydiannol Afon Tafwys, awyrgylch hollol wahanol i'r hyn roedd e wedi arfer gyda fe.

"Dechreuodd hefyd ymddiddori'n fawr yn artistiaid Prydeinig fel Constable a Turner, a dechreuodd ei waith newid oherwydd ei gyfnod yma."

Mae gweithiau gan y ffotograffydd o Chile, Humberto Gatica, wedi'u cynnwys yn y sioe.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Humberto Gatica fod celf a barddoniaeth wedi ei helpu gyda'i brofiadau fel ffoadur

'Arwydd emosiynol'

Fe wnaeth ef a'i wraig ffoi o Chile ar 么l cael eu carcharu gan lywodraeth Pinochet yn y 1970au. Ymgartrefodd y ddau yn Abertawe lle maen nhw dal i fyw heddiw.

Gan ddefnyddio lluniau teulu, mae Mr Gatica yn creu delweddau newydd sy'n dangos poen y rhai oedd gorfod gadael teuluoedd a ffrindiau wrth ffoi'r wlad.

Wrth siarad am ei gelf, dywedodd: "Mae'n cyfleu llawer o wahanol bethau. Er enghraifft mae marwolaeth, colled, gwacter.

"Rwy'n gweithio gyda gwahanol ddelweddau, ac yn chwilio am arwydd emosiynol cryf.

"Wnes i greu'r gwaith yma oherwydd dechreuais ofyn 'Pwy ydw i, beth ydw i'n trio mynegi?'

"Ac yna wnes i sylweddoli fy mod i wedi gorfod delio 芒 phoen trwy gydol fy mywyd."

Dywedodd Humberto Gatica fod celf a barddoniaeth wedi ei helpu i ddod i'r afael 芒'i brofiadau fel ffoadur.

Ffynhonnell y llun, Humberto Gatica
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Duelo: O gasgliad Humberto Gatica

Lloches i ffoaduriaid

"Ydy, mae'n iawn i deimlo trueni drosoch chi eich hunain am ychydig, ond ar 么l hynny mae angen i chi symud ymlaen.

"Ac wrth symud ymlaen, fe wnaeth ffotograffiaeth a barddoniaeth fy helpu. Y bobl sy'n dweud ei fod yn therapi, maen nhw'n hollol iawn."

Mae'r arddangosfa yn MOMA wedi cymryd blynyddoedd o gynllunio, ac wedi dibynnu ar fenthyg gweithiau gan orielau mawr a chasglwyr preifat.

Mae rhai o'r gweithiau'n dangos cymeriadau a thirweddau Cymreig, tra dywedodd Dr Wakelin ei fod hefyd eisiau dathlu hanes Cymru fel lloches i ffoaduriaid.

"Yn aml mae gan Gymru record o drin ffoaduriaid yn dda iawn, ac o eisiau dod 芒 nhw i mewn i fywyd Cymru.

"Rydych chi'n edrych at bobl fel Heinz Koppel a Josef Herman a sefydlodd eu hunain yma, a gafodd effaith enfawr, oherwydd eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan bobl Cymru - yn enwedig yng nghymoedd y de.

"Ond roedd cyfnod yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd pan roedd y chwiorydd Davies o Gregynog mor hael wrth greu cartrefi i artistiaid o Wlad Belg a ddaeth i Brydain.

"Roedd y chwiorydd am iddynt gael dylanwad bositif ar broffesiynoli celf yng Nghymru."

Mae'r arddangosfa ym MOMA Machynlleth tan 6 Mehefin 2020.