大象传媒

Achos diffyg Cymraeg gan gwmni trenau i fynd i dribiwnlys

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gwmni Trafnidiaeth Cymru

Mae gweinidogion Cymru'n apelio yn erbyn dyfarniad Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi torri'r gyfraith drwy beidio 芒 sicrhau gwasanaethau Cymraeg i deithwyr trenau Trafnidiaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio'r mater at Dribiwnlys y Gymraeg gan ddweud eu bod yn "anghytuno" 芒 chasgliadau adroddiad terfynol y comisiynydd, Aled Roberts.

Maen nhw'n herio'r casgliadau ar y sail nad oes rhaid i'r cwmni sy'n darparu gwasanaethau tr锚n ar eu rhan, Keolis Amey, gydymffurfio 芒'r un safonau 芒 gweinidogion y llywodraeth.

Yn 么l Cymdeithas yr Iaith, mae'r penderfyniad yn "sgandal", ac mae swyddfa'r comisiynydd yn dweud na allai drafod yr ymchwiliad tra bydd y tribiwnlys yn ystyried yr ap锚l.

Yn 么l Mr Roberts, roedd y methiannau a ddaeth i'w sylw yn cynnwys:

  • Cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg;

  • Diffyg fersiwn Cymraeg o ap Trafnidiaeth Cymru;

  • Tudalen we oedd ddim yn adnabod enwau Cymraeg gorsafoedd;

  • Tocynnau tr锚n uniaith Saesneg;

  • Dewisiadau Saesneg ar beiriant hunanwasanaeth yng ngorsaf Caerdydd Canolog er i'r achwynydd ddewis yr opsiwn Cymraeg;

  • Gohebiaeth uniaith Saesneg.

'Anghytuno gyda'r comisiynydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod ni'n anghytuno gyda'r comisiynydd ar y mater penodol hwn, rydyn ni'n gefnogol ac yn annog ymdrechion i wneud gwasanaethau trafnidiaeth yn fwyfwy dwyieithog.

"Nid yw Safonau'r Gymraeg sydd yn gymwys i weinidogion Cymru yn berthnasol i wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Keolis Amey, sydd yn dal y rhyddfraint rheilffyrdd ar gyfer Cymru a'r Gororau.

"Dyna pam rydyn ni'n cyfeirio'r mater at Dribiwnlys y Gymraeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aled Roberts wedi nodi sawl argymhelliad yn ei adroddiad i weinidogion Cymru eu gweithredu

Ychwanegodd bod Keolis Amey yn darparu gwasanaethau dwyieithog, a bod y llywodraeth a'i his-gwmni, Trafnidiaeth Cymru "wedi ymrwymo i wella a chynyddu'r gwasanaethau yma sydd ar gael i deithwyr trenau".

Maen nhw hefyd, meddai, "wedi dechrau paratoi set benodol o reoliadau" yn gosod Safonau'r Gymraeg ar gyfer y sector rheilffyrdd "yn ystod tymor y Senedd nesaf".

Bydd y rheoliadau yma'n "ei gwneud hi'n ofynnol i bob darparwr gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru gynnig gwasanaethau yn Gymraeg".

'Tanseilio hawliau iaith'

Mae'r sefyllfa "yn gywilyddus", yn 么l David Williams o Gymdeithas yr Iaith.

"Yn lle defnyddio eu hadnoddau i gryfhau'r iaith, mae'n llywodraeth ni'n treulio'u hamser ac yn gwario ein harian ar danseilio hawliau pobl i'r Gymraeg," meddai.

"Mae'r llywodraeth wedi bod yn oedi rhag ymestyn Safonau'r Gymraeg i'r maes trafnidiaeth ers blynyddoedd, gan ddweud nad oes digon o gyfreithwyr i wneud y gwaith.

"Fodd bynnag, pan ddaw hi at ffeindio cyfreithwyr i danseilio ein hawliau iaith, ymddengys bod hen ddigon ohonyn nhw."

Ffynhonnell y llun, TfW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

KeolisAmey sy'n rhedeg gwasanaethau tr锚n yng Nghymru ers Hydref 2018

Ychwanegodd: "Dyw hi ddim yn dderbyniol i'r llywodraeth dorri'r gyfraith na chaniat谩u i'r cwmni yma amddifadu pobl o hawliau sylfaenol i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg: "Gall unigolion neu sefydliadau sydd yn anfodlon gyda dyfarniad y comisiynydd apelio i Dribiwnlys y Gymraeg.

"Tra bydd y tribiwnlys yn ystyried yr ap锚l, ni all y comisiynydd drafod yr ymchwiliad."