Canslo llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd llawdriniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw yn cael eu canslo yng Nghymru o achos coronafeirws, wrth i'r gwasanaeth iechyd baratoi am gyfnod heriol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys yn fater o wneud "y penderfyniadau cywir ar yr amser cywir."

Bydd apwyntiadau cleifion allanol hefyd yn cael eu gohirio am y tro.

Mae targedau amseroedd aros monitro perfformiad adrannau hefyd yn cael eu llacio.

Beth yw'r camau?

Amlinellodd y prif weinidog nifer o gamau, yn cynnwys:

  • Gohirio apwyntiadau allanol sydd ddim yn rhai brys er mwyn blaenoriaethu apwyntiadau eraill;
  • Gohirio llawdriniaethau a thriniaethau sydd ddim yn rhai brys;
  • Blaenoriaethu trafnidiaeth i gleifion i ganolbwyntio ar ryddhau cleifion o ysbytai ac ymateb galwadau brys ambiwlansys;
  • Hwyluso'r gwaith o ryddhau cleifion bregus o ysbytai gofal dwys ac ysbytai cymunedol;
  • Llacio targedau a threfniadau monitro ar draws y gwasanaeth iechyd a gofal;
  • Lleihau gofynion rheoleiddio lleoliadau iechyd a gofal;
  • Cyflymu lleoliadau cleifion i gartrefi gofal drwy gael gwared ar y protocol presennol sy'n rhoi cyfle i glaf ddewis cartref gofal;
  • Rhoi caniat芒d i ganslo digwyddiadau mewnol, yn cynnwys cyfnodau o'r gwaith i astudio, i ryddhau staff ar gyfer paratoadau;
  • Llacio trefniadau cytundebu a monitro at gyfer meddygon teulu a gweithwyr gofal rheng flaen;
  • Atal cefnogaeth wirfoddol staff gwasanaethau brys y GIG ar gyfer digwyddiadau torfol a digwyddiadau eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai angen ystyried lleihau gweithgareddau oedd wedi'u cynllunio, gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol.

Dywedodd uwch ymgynghorydd gofal dwys wrth 大象传媒 Cymru fod gwl芒u a staffio mewn ysbytai dan bwysau sylweddol, gan fod unedau gofal dwys wedi bod yn gweithio gyda chapasiti o 90% yn gynharach yn yr wythnos.

Esboniodd Dr Jack Parry-Jones, aelod Cymru ar fwrdd Cyfadran Meddygaeth Gofal Dwys fod Cymru yn "unigryw o ran risg" petai 'na gynnydd sydyn mewn cleifion oedrannus.

Ychwanegodd mai'r dewis fyddai cwtogi niferoedd y llawdriniaethau arferol a throi theatrau llawdriniaethau i gyfleusterau gofal dwys ychwanegol.