Cyngerdd llifogydd Storm Dennis yn casglu 拢11,000
- Cyhoeddwyd
Cafodd dros 拢11,000 ei godi mewn cyngerdd elusennol yn y Rhondda nos Wener at gronfa i adfer Clwb y Bont ym Mhontypridd.
Difrodwyd y clwb Cymraeg ynghanol y dref yn sylweddol gan lifogydd adeg Storm Dennis fis Chwefror.
Roedd artistiaid yn cynnwys Elin Fflur, Huw Chiswell, Mei Gwynedd, Dyfrig Evans, Catsgam a Lloyd Macey yn perfformio yn y Ffatri yn y Porth.
"Ces i fy nghyffwrdd yn fawr gan y lluniau o'r llifogydd fel cymaint o bobl," meddai'r trefnydd Emyr Afan, o gwmni Avanti.
"Achos o'n i arfer gigio fel Cymro ifanc yng Nghlwb y Bont, roedd rhaid i fi wneud rhywbeth. O'n i yn Llundain ar y pryd ac o'n i'n meddwl allai ddim dod n么l i helpu.
"Ond mae gen i ff么n, a rhifau ff么n yr artistiaid dwi wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, ac roedden nhw i gyd wedi dweud 'ie' i gymryd rhan."
Llifodd troedfeddi o dd诺r i adeilad Clwb y Bont ar nos Sadwrn, 15 Chwefror, ac mae pwyllgor y clwb yn amcangyfrif y bydd angen rhwng 拢30,000 a 拢40,000 i'w adfer yn llawn.
Mae ap锚l ar-lein, gafodd ei sefydlu yn y dyddiau yn dilyn y llifogydd, wedi codi dros 拢10,000.
Bydd dau gyngerdd arall yn y Ffatri i godi arian at gymunedau gafodd eu heffeithio gan lifogydd storm Dennis, gydag artistiaid fel James Dean Bradfield, Mike Peters a Charlotte Church yn perfformio nos Sadwrn, ac artistiaid lleol brynhawn Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020