Coronafeirws: Yr addoldai sy'n troi at dechnoleg
- Cyhoeddwyd
Mae eglwysi ar draws y wlad yn paratoi i gynnal eu gwasanaethau drwy ddulliau newydd wrth i argyfwng coronafeirws orfodi sawl sefydliad i gau eu drysau dros dro.
Mae'r Eglwys Bresbyteraidd wedi cyhoeddi cyngor newydd yn dweud bod "rhesymau digonol" i beidio cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn unrhyw un o'u 580 o eglwysi am y tro, ac na ddylai'r penderfyniad i gau achosi euogrwydd.
Mae sawl enwad arall yn gadael i gapeli ac eglwysi unigol benderfynu beth i wneud dros y misoedd nesaf, ond yn dweud eu bod yn monitro'r canllawiau swyddogol yn gyson.
Un eglwys o enwad y Bedyddwyr sydd wedi bod yn arbrofi â darlledu oedfaon dros Facebook Live yw Eglwys y Tabernacl, yn yr Ais, Caerdydd.
"Ry'n ni eisiau cario 'mlaen tan fod rhaid rhoi stop ar bethau," meddai'r diacon, Rhys ab Owen.
"Does dim dyletswydd ar unrhyw un i ddod. Ni'n disgwyl pobl ifanc rhan fwyaf. Byddwn ni'n rhoi'r oedfa ar Facebook Live wedyn.
"Pan drïon ni fe heddiw, roedd rhai o'r rhai hŷn ffaelu ei glywed e, ond dangoson ni sut i droi'r volume lan ac roedd ymateb da yn y grŵp Facebook wedyn.
"Ni'n poeni. Mae'n big ask i'r rhai dros 70 aros adre. Mae'n mynd i fod yn anodd i bobl."
Mae'r diaconiaid yno wedi creu grŵp WhatsApp newydd i gyfathrebu gyda dros 70 o aelodau er mwyn ceisio lleihau teimladau o unigrwydd.
'Profiad newydd a brawychus'
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg hefyd yn bwriadu ffrydio gwasanaethau ar-lein.
Mae'r enwad yn annog aelodau 400 o eglwysi i lunio cynllun eglwys ar frys.
Yn ôl y Parchedig Dyfrig Rees, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, mae'n bwysig cynnal a chysuro pobl sy'n gorfod ynysu eu hunain yn eu cartrefi oherwydd coronafeirws.
"Mewn oesoedd a fu, roedd pobl yn gyfarwydd â haint a phla, ond mae hwn yn brofiad newydd a brawychus i'n hoes ni," meddai.
Daw hyn wedi'r cyhoeddiad ei bod hi'n bosib y bydd yn rhaid i bobl dros 70 oed hunan ynysu am gyfnod hir.
"Ni chawsom ein harfogi yn seicolegol nac yn ddiwylliannol ar gyfer y pandemig coronafeirws cyfredol," ychwanegodd y Parch Dyfrig Rees.
"O safbwynt Cristnogol, mae galw arnom i ddangos tosturi a gofal am gymydog mewn ffyrdd na fyddem erioed wedi eu rhagweld fis neu ddau yn ôl. "
Mae'r enwad yn annog eu haelodau i:
gadw mewn cysylltiad â phobl sy'n gaeth i'w cartrefi trwy ffonio neu anfon e-bost;
ofyn a oes ganddyn nhw ddigon o fwyd, moddion ac ati a chynnig gadael nwyddau angenrheidiol ar stepen y drws ond heb ymweld;
gynnig cysur a gweddi.
'Dylai eglwysi bob amser fod ar agor'
Fel yr Eglwys yng Nghymru, dyw'r Eglwys Babyddol yng Nghymru a Lloegr ddim wedi rhoi cyfarwyddyd swyddogol i gau ar hyn o bryd.
Ond mae 'na baratoadau ar gyfer cyfnod lle bydd rhaid gwneud hynny.
Yn ôl Cardinal Vincent Nichols, mae'n bwysig i eglwysi fod yn barod i ddilyn canllawiau swyddogol a "gwneud y peth iawn ar yr amser iawn".
"Yn fy marn i, dylai eglwysi bob amser fod ar agor. Maen nhw'n llefydd i bobl eistedd yn dawel a gweddïo," meddai.
Ychwanegodd bod cynlluniau i ffrydio gwasanaethau ar-lein fel bod pobl yn gallu ymuno o'u cartrefi.
'Dal yn cwrdd ond mewn ffyrdd gwahanol'
Dyna hefyd mae rhai capeli efengylaidd yn bwriadu ei wneud.
Teuluoedd ifanc yw rhan helaeth cynulleidfa capel y Ffynnon ym Mangor, ac yn ôl yr arweinydd, Steffan Job, byddan nhw'n dilyn canllawiau'r llywodraeth o safbwynt cwrdd yn gorfforol yn yr adeilad o hyn ymlaen.
"Wnawn ni byth gau'r eglwys lawr," meddai Mr Job. "Byddwn ni dal yn cwrdd ond mewn ffyrdd gwahanol."
Dywedodd bod aelodau'r eglwys eisoes yn helpu cynnal ei gilydd mewn grwpiau ar wefannau cymdeithasol, a'u bod yn ffrydio gwasanaethau neu'n ymuno mewn oedfaon gyda'i gilydd dros Skype.
"Helpu pobl, ac estyn allan i'r rhai sydd mewn angen fydd y flaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf," meddai.
Cyngor i Fwslimiaid cyn cyfnod Ramadan
Mae dau fosg yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi bwriad i gau.
Mae'r Cyngor Mwslimaidd Prydain hefyd wedi annog mosgiau i gael cynlluniau yn barod ar gyfer cyfnod Ramadan, sydd i ddechrau yn ail hanner mis Ebrill.
Mae disgwyl y bydd rhaid atal pobl rhag ymgasglu ar raddfa eang.
Mae'r Synagog Unedig wedi gofyn i aelodau beidio ysgwyd llaw na chusanu creiriau crefyddol, fel llyfr gweddi'r Iddewon, y Siddur.
Cau dros dro hefyd yw hanes canolfan Bwdhaeth Kadamapa Kalpa Bhadra yn Llandudno, Bangor a'r Wyddgrug. Bydd cyrsiau ar gael ar y we am y cyfnod sydd i ddod.
Mae'r gymuned Sikh hefyd wedi bod yn paratoi ar gyfer ceisio ymdopi dan amgylchiadau newydd gyda Gurdwaras yn cael eu hannog i ystyried cynlluniau amgen i ddathlu'r ŵyl Hindŵaidd a Sikhiaidd, Vaisakhi ym mis Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2020