大象传媒

Ail glaf yng Nghymru wedi marw ar 么l cael Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty TreforysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw'r claf yn Ysbyty Treforys ar 么l cael prawf Covid-19 positif

Mae ail glaf wedi marw yng Nghymru ar 么l cael y clefyd Covid-19, neu coronafeirws.

Cafodd manylion yr achos eu cadarnhau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton brynhawn Mawrth.

"Roedd y claf, oedd 芒 chyflyrau iechyd blaenorol, yn 96 oed ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys," dywedodd.

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddidwyll 芒'r teulu a chyfeillion ac yn gofyn fod eu cais am breifatrwydd yn cael ei barchu."

Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod wedi'r cadarnhad mai claf 68 oed oedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y cyntaf i farw o'r haint yng Nghymru.

Wrth i'r nifer sydd wedi'u cadarnhau 芒 coronafeirws gynyddu i 136, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod bod hynny yn "tanamcangyfrif nifer yr achosion mewn gwirionedd".

Mae hynny oherwydd mai'r cyngor i unrhyw un sy'n credu eu bod wedi'u heintio bellach yw aros gartref am o leiaf wythnos, a dim ond mewn ysbytai mae profion yn cael eu cynnal.

Dywedodd Dr Gini Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Does dim angen i bobl gysylltu 芒'r GIG 111 bellach os ydyn nhw'n credu bod ganddyn nhw Covid-19.

"Dylai pobl sydd 芒 gwres neu beswch aros adref am saith diwrnod os ydyn nhw'n byw ar eu pen eu hunain, neu 14 diwrnod os ydyn nhw'n byw gydag eraill.

"Fe ddylai unrhyw un sy'n byw gyda pherson sydd 芒 symptomau hefyd aros adref am 14 diwrnod a pheidio mynd i feddygfa, fferyllfa nac ysbyty.

"Dylen nhw gysylltu 芒'r聽GIG 111 dim ond os ydyn nhw'n teimlo na allan nhw ddelio 芒'r symptomau gartref, os ydy eu cyflwr yn gwaethygu, neu os nad ydyn nhw'n gwella ar 么l saith diwrnod."