Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmni Laura Ashley yn nwylo'r gweinyddwyr
Mae'r cwmni dillad Laura Ashley wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr wedi i drafodaethau ar geisio achub y cwmni fethu.
Yn 么l y cwmni mae'r epidemig wedi effeithio'n fawr ar eu perfformiad ac fe fyddai prynu a gwerthu eu cyfranddaliadau yn cael eu gohirio.
Mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau ers tro gyda'u benthycwyr i geisio cael mynediad at fwy o arian.
Cafodd cwmni Laura Ashley ei sefydlu yn 1953 gan Laura a Bernard Ashley a ddechreuodd brintio defnydd yn eu cegin yn Llundain.
Fe sefydlodd y ddau bencadlys i'r busnes llwyddiannus ym mhentref Carno ym Mhowys, cyn i'r brand ddod yn fyd-enwog.
Agorwyd ffatri yno yn 1967 ac ar un cyfnod roedd Laura Ashley yn cyflogi mwy na 800 o weithwyr yng Ngharno ac yn Y Drenewydd.
Cafodd staff diwethaf y ffatri eu diswyddo yn 2005.
Ym mis Rhagfyr 2018 fe gyhoeddodd y cwmni golled ariannol flynyddol o dros 拢14m, gan roi'r bai ar yr ansicrwydd ynghlwm 芒 Brexit.
Mae Laura Ashley yn un o nifer o fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd dygymod gydag effeithiau economeg y feirws.
Yn ddiweddarach dydd Mawrth mae disgwyl i'r Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi cyfres o fesurau i geisio cynorthwyo busnesau.