Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: Gweithwyr siopau 'yn cael eu sarhau'
Mae gweithwyr mewn archfarchnadoedd yn dweud eu bod wedi wynebu sarhad a hiliaeth wrth i siopwyr heidio yno yn sgil argyfwng coronafeirws.
Dywedodd un gweithiwr yng Nghaerdydd bod siopau wedi bod yn "wallgof" a'i fod wedi cael effaith negyddol ar ei hiechyd meddwl.
Yn 么l Usdaw, yr undeb sy'n cynrychioli gweithwyr mewn siopau, mae'r staff yn "chwarae r么l allweddol yn helpu'r wlad trwy'r argyfwng" ac mae angen eu cefnogi.
Maen nhw wedi galw am wneud mwy i sicrhau nad yw staff siopau bwyd yn cael y feirws tra'n gweithio.
Dywedodd gweithiwr mewn siop Co-op yng Nghaerdydd ei bod wedi wynebu hiliaeth gan un cwsmer.
"Roedd yn gweiddi arna i fod y feirws wedi'i achosi gan bobl Chineaidd, a bod ganddo hawl i ryddid barn - roedd e'n erchyll," meddai.
'Pobl mor hunanol'
Ychwanegodd un gweithiwr Tesco yn y brifddinas: "Mae gweithio yma'r wythnos hon wir wedi effeithio ar fy iechyd meddwl.
"Mae pobl mor hunanol. Mae hi wedi bod yn wallgof yma gyda'r holl brynu mewn panig.
"Rydyn ni wedi gweld y gwaethaf mewn pobl yr wythnos hon - does dim synnwyr yn y peth."
Dywedodd Usdaw bod eu haelodau yn delio 芒 galw eithriadol o uchel, ac yn dod i gyswllt 芒 channoedd o bobl pob dydd.
Galwodd yr undeb ar gwsmeriaid i gymryd camau er mwyn lleihau'r risg o basio unrhyw heintiau i weithwyr mewn siopau.
"Mae angen trin ein haelodau gyda'r cwrteisi a'r parch maen nhw'n ei haeddu," meddai'r undeb mewn datganiad.
"Golchwch eich dwylo cyn mynd i siopa, cadwch draw o'r staff a cheisiwch dalu gyda cherdyn os yn bosib, yn hytrach nac arian parod."
Cyfyngu ar oriau
Mae nifer o archfarchnadoedd wedi cyfyngu eu horiau er mwyn ail-stocio silffoedd pan nad oes cwsmeriaid er mwyn diogelu staff, ac mae eraill yn defnyddio staff diogelwch.
Mae rhai yn cyfyngu pobl i brynu tri yn unig o unrhyw gynnyrch, ac yn agor i bobl h欧n neu fregus yn unig ar rai cyfnodau.